'Hi oedd yn dawnsio fwyaf ac yn canu uchaf': Tor calon mam wedi marwolaeth annisgwyl ei merch

Olivia-Grace

Mae cronfa ar gyfer teulu merch fach wyth oed a fu farw'n annisgwyl mewn ysgol yn Rhondda Cynon Taf brynhawn Mercher wedi codi mwy na £9,000. 

Mae mam Olivia-Grace Huxter, Melanie Huxter wedi ei disgrifio fel ei "merch brydferth" gan egluro na all "fwyta na chysgu hebddi".

Ar y dudalen codi arian, mae ei theulu yn cyfeirio ati fel canolbwynt eu bywyd, ac yn egluro iddi gael problemau meddygol yn ystod ei blynyddoedd cynnar.

" Fe lwyddodd hi i wella wedi llawdriniaeth ar y galon pan yn chwe mis oed, a chafodd pneumonia pan yn bump oed. Roeddem yn edmygu ei dewrder a'i chryfder. Daeth â goleuni i fywydau pawb a oedd yn ddigon ffodus i'w hadnabod. 

"Hi oedd yn dawnsio fwyaf ac yn canu uchaf. Roedd hi'n garedig, doniol, galluog, ac roedd hi mor bert. 

"Rydw i'n ceisio dod o hyd i'r geiriau i ddisgrifio pa mor wych oedd hi, ond rydw i'n ei chael yn anodd dod o hyd iddyn nhw.      

Os oeddech yn ei hadnabod, byddech yn gwybod."   

Roedd Olvia-Grace yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Penrhys. Caeodd yr ysgol ddydd Iau wedi ei marwolaeth annisgwyl.

Dywedodd prifathro Ysgol Gynradd Penrhys, Andrew Williams ei fod yn ddiolchgar i’w rhieni am eu cefnogaeth wedi’r digwyddiad.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu De Cymru bod y gwasanaethau brys wedi eu galw i ysgol gynradd yn Glynrhedynog yn fuan wedi 14.00 ddydd Mercher.

“Fe gafodd y ferch ei chludo i’r ysbyty a bu farw yno yn ddiweddarach,” meddai'r llu. 

“Does yna ddim amgylchiadau amheus ac mae’r ymchwiliad ar ran y crwner yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.”

Dywedodd cynghorydd Pendyrus ac Ynyshir, Julie Edwards, ei bod hi wedi cael gwybod am y “digwyddiad trasig” a’i bod yn galw ar bobl leol i “beidio dyfalu a lledaenu camwybodaeth”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.