'Byw breuddwyd': Merch ifanc o Lŷn yn cystadlu yn un o sioeau marchogaeth mwyaf y byd
Fe fydd merch chwech oed o Ben Llŷn yn cystadlu yn un o sioeau marchogaeth mwyaf y byd y penwythnos hwn.
Brynhawn Sadwrn, fe fydd Lili Garrod-Tomos a’i cheffyl Buddy yn cystadlu yn yr Horse Of The Year Show yng Nghanolfan yr NEC yn Birmingham.
Mae disgwyl i dros 60,000 o bobl ymweld â'r sioe yn ystod yr wythnos i fwynhau cystadlaethau, sioeau a dathlu popeth sy'n ymwneud â marchogaeth.
“Hwn ydi’r sioe mwya’ yn y byd, mewn ffor’,” meddai mam Lili, Anest Garrod wrth Newyddion S4C.
“Fel arfer mae’n cymryd few years i rywun gymhwyso i’r Horse of the Year Show. Ond naeth Lili a Buddy fynd allan yn y qualifier gynta a nath hi ennill a qualifyio.”
Yn cystadlu yn nosbarthiad Merlen Sioe’r Flwyddyn, fe fydd Lili ymysg 15 o farchogion ifanc mwyaf dawnus y wlad.
Mae modd ennill lle yn sioe Ceffyl y Flwyddyn mewn sawl sioe sy’n cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn.
Ac fe wnaeth Lili gyflawni hynny yn ei chystadleuaeth gymhwyso gyntaf erioed, ar ôl ennill yn sioe Midland Counties yn Sir Lincoln, fis Mehefin.
“Da chi’n sôn am gannoedd sy’n trïo ar draws yr holl sioeau, felly mae hi di bod yn lwcus iawn gael qualifyio," ychwanegodd Anest.
“Yn y gystadleuaeth, mae hi’n fod i edrych yn ddel, gwenu, a mae hi’n gorfod marchogaeth yn elegant.
“Mae’r beirniaid yn edrych ar y ffordd mae’r plentyn yn marchogaeth y ceffyl, yn fwy na sut mae’r ceffyl yn edrych, a mae’n rhaid reidio’n berffaith mewn ffordd.
“Pan naeth hi gymhwyso, fysa Lili’n deud, mi oeddwn i’n crio, mi oedd nain yn crio ac mi oedd Anti Baba, (chwaer Anest, Natalie) yn crio. Oeddan ni i gyd yn crio!”
Gyda’i mam, nain a modryb, fe deithiodd Lili o Ben Llŷn i Birmingham ddydd Gwener, cyn y gystadleuaeth fawr ddydd Sadwrn.
“Rŵan da ni’n paratoi am y weekend ac yn edrych ymlaen yn arw. Mae hi llond hyder, byth yn mynd yn nyrfys. Mi ydw i - ond diolch byth bod hi ddim.
“Pan o’n i’n blentyn, mi oeddan ni bob tro’n mynd i Ceffyl y Flwyddyn i gael gweld a meddwl ‘swni wrth fy modd yn cael marchogaeth yn fama’.
“Dwi erioed wedi a dwi’n 28 rŵan – so mae Lili yn byw fy mreuddwyd i.”