Diwrnod T Llew Jones: Ysgolion Ceredigion yn dathlu brenin llenyddiaeth plant Cymru

Diwrnod T Llew Jones: Ysgolion Ceredigion yn dathlu brenin llenyddiaeth plant Cymru

I nodi diwrnod ei ben-blwydd ddydd Sadwrn, mae plant ar hyd a lled Cymru wedi bod yn dathlu Diwrnod T Llew Jones, gyda rhai o ysgolion Ceredigion yn cymryd rhan mewn prosiect cyffrous.

Ysgrifennu stori sydd wedi ei hysbrydoli gan y gerdd Yr Hen Dŷ Gwag oedd y dasg ar gyfer disgyblion Ysgol T Llew Jones ym Mrynhoffnant, ac ysgolion eraill ar draws y Sir. 

Mewn cyfnod pan "mae’n dalcen caled i gael plant i ddarllen”, dywedodd Bethan Sturrock, athrawes yn Ysgol T Llew Jones, fod "y dychymyg sydd wedi dod allan gyda’r plant wrth lunio’r stori yma wedi bod yn anhygoel."

Image
Diwrnod T Llew Jones
Bethan Sturrock

Dywedodd Eben, disgybl blwyddyn 6 yn yr ysgol bod "ysgrifennu stori Yr Hen Dŷ Gwag, dysgu am gerddi T Llew Jones, ac am ei straeon e wedi bod yn lot o hwyl."

Image
Diwrnod T Llew Jones
Eben

Mi fydd y stori mae Ysgol T Llew Jones wedi ei hysgrifennu, yn rhan o stori gadwyn ehangach, wrth i ysgolion eraill y sir gyfrannu at y darn gorffenedig. 

Dywedodd Jac, sy'n ddisgybl blwyddyn 6 yn Ysgol T Llew Jones: "Mae un ysgol yn neud part nhw a wedyn ma' ysgol arall yn neud part arall ar ôl hwnna

"Fi wedi cael lot o hwyl a mae’n rili hwyl gweithio gyda’r dosbarth a chael syniadau da", meddai.

Mae’r criw hefyd wedi bod yn dysgu sut i ysgrifennu stori gyffrous ac anturus fel T Llew Jones. 

Yn ôl Katie, disgybl blwyddyn 6 yn yr ysgol, mae tipyn i'w ystyried: "Ma' stori antur angen deialog a dychymyg da, a ma' fe’n rili pwysig i gael lot o gyfrinachau."

Image
Diwrnod T Llew Jones
Katie

Cyngor Ceredigion sy’n gyfrifol am y prosiect hwn. Yn ôl Mared Llwyd, sy’n aelod o dim cefnogi’r Gymraeg yng Ngheredigion “mae enw T Llew yn enw oesol fyddwn ni’n ei ddathlu am flynyddoedd lawer i ddod.”

Image
Diwrnod T Llew Jones
Mared Llwyd

“Ma’r son am y broblem o gael plant i fwynhau darllen, ei denu nhw at lyfrau, ond ma’r prosiect yma wedi profi bod plant yn parhau i fwynhau yr hen straeon antur, bod dychymyg a’r syniad o ddirgelwch yn parhau yn fyw ac yn iach."

Ar ddiwrnod T Llew Jones felly, mae Alaw, disgybl blwyddyn 6 yn Ysgol T Llew Jones yn llawn balchder: “ Mae'n bwysig bod ysgol ni wedi cael ei enwi ar ôl T Llew Jones, achos mae e’n fardd pwysig iawn i Gymru,” meddai 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.