Penwythnos arwyddocaol yn y Cymru Premier JD

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Y Seintiau Newydd

Mae’n edrych fel y bydd yn benwythnos arwyddocaol yn nhymor y Cymru Premier JD, wrth i’r ddau uchaf fynd benben yn Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn.

Triphwynt sy’n gwahanu’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd a Pen-y-bont ac felly bydd y pencampwyr presennol yn gobeithio agor bwlch o chwe phwynt ar y brig, tra bydd tîm Rhys Griffiths eisiau codi’n hafal ar bwyntiau gyda’r clwb ar y copa.

Bydd yna gêm bwysig yn cael ei chwarae tua gwaelod y tabl hefyd wrth i ddau o’r tri isaf gyfarfod wrth i’r Fflint groesawu Llanelli i Gae y Castell.

Llansawel (9fed) v Cei Connah (4ydd) | Dydd Sadwrn – 12:30

Wedi rhediad hir o saith gêm gynghrair heb fuddugoliaeth roedd yna gyfle i ddathlu o’r diwedd i dîm Andy Dyer nos Fawrth wrth i Lansawel drechu’r Barri.

Ar ôl ennill dwy gêm o fewn tridiau, mae’r garfan i weld wedi clicio gan Gei Connah ac mae’r canlyniadau cadarnhaol wedi codi’r Nomadiaid i’r 4ydd safle gyda gêm wrth gefn.

Enillodd Cei Connah eu dwy gêm yn erbyn Llansawel yn rhan gynta’r tymor diwethaf, ond fe gafodd y Cochion ddial wedi’r hollt gan guro’r Nomadiaid ddwywaith yn ail ran y tymor.

Dyw Llansawel ddim wedi ennill yr un o’u chwe gêm gartref ddiwethaf yn yr uwch gynghrair, ers curo Cei Connah o 1-0 ym mis Mawrth.

Record gynghrair ddiweddar:

Llansawel: ͏➖❌❌➖✅

Cei Connah: ✅❌➖✅✅

Bae Colwyn (5ed) v Met Caerdydd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Bae Colwyn a Met Caerdydd wedi bod yn brysur yn dringo’r tabl dros y pythefnos diwethaf ar ôl dechrau mis Hydref yn gadarn.

Mae gemau Bae Colwyn wedi bod yn rai tynn eithriadol ar y cyfan, a does dim ond pedair gôl wedi cael ei sgorio ar draws pum gêm ddiwethaf y Gwylanod (Lli 0-0 Bae, Bae 0-1 Bala, Pen 1-0 Bae, Bae 1-0 Cfon, Ffl 0-1 Bae).

Cafodd yna bedair gôl ei sgorio yng ngêm Met Caerdydd yn erbyn Llanelli nos Fawrth, a daeth tair o’r rheiny i’r myfyrwyr yn ystod yr ail hanner wrth i garfan Ryan Jenkins ennill am y trydydd tro yn olynol.

Roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus o 4-1 i Fae Colwyn yn y gêm gyfatebol ar Gampws Cyncoed ym mis Medi gyda Louis Robles yn taro ddwywaith i dîm Michael Wilde.

Record cynghrair diweddar: 

Bae Colwyn: ͏➖❌❌✅✅

Met Caerdydd: ͏❌❌✅✅✅

Y Barri (7fed) v Caernarfon (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Bydd Y Barri’n anelu i gyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers pum mlynedd eleni, ond ar ôl methu â sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf mae’r Dreigiau wedi disgyn i’r hanner isaf.

Wedi dechrau rhagorol i’r tymor mae Caernarfon bellach naw pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd ar ôl colli pedair o’u pum gêm ddiwethaf.

Ar ôl dechrau’r ymgyrch ar dân, dyw Adam Davies heb sgorio mewn pum gêm bellach, ac hynny ar ôl rhwydo wyth gôl yn y saith gêm agoriadol.

Ond mae gan Gaernarfon record wych yn erbyn Y Barri gan i’r Cofis ennill pump o’r saith gornest ddiwethaf rhwng y clybiau (colli 1, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ➖✅➖❌❌

Caernarfon: ͏❌✅❌❌❌

Y Fflint (10fed) v Llanelli (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Er bygwth am gyfnod i dorri mewn i’r Chwech Uchaf mae’r Fflint yn ôl tua’r gwaelodion ar ôl colli tair o’u pedair gêm gynghrair ddiwethaf.

Ond Llanelli sy’n dal ar waelod y domen, ar ôl colli 75% o’u gemau cynghrair y tymor hwn gyda’r golled ddiweddaraf yn dod yn erbyn Met Caerdydd yng nghanol wythnos. 

Llanelli a’r Fflint sydd â’r ddau record amddiffynnol waethaf yn y gynghrair y tymor yma, ond yn wahanol i’r Cochion, mae blaenwyr y Sidanwyr wedi bod yn tanio, a dim ond y tri uchaf sydd wedi sgorio mwy na’r Fflint.

Y Fflint oedd yn fuddugol yn y frwydr gyfatebol rhwng y timau ym mis Medi gyda Elliott Reeves yn serennu i’r Sidanwyr gan sgorio hatric ar Barc Stebonheath mewn buddugoliaeth swmpus o 5-0 i dîm Lee Fowler.

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ➖❌✅❌❌

Llanelli: ➖✅✅❌❌

Y Seintiau Newydd (1af) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)

Bydd gêm fwya’r penwythnos yn fyw ar Sgorio wrth i’r ddau uchaf gyfarfod mewn gêm allweddol yn Neuadd y Parc.

Triphwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm a orffennodd yn y ddau safle uchaf y tymor diwethaf, a sy’n cystadlu am y bencampwriaeth unwaith eto eleni.

Ar ôl curo Caernarfon nos Fawrth mae’r Seintiau bellach ar rediad o 12 gêm heb golli, yn cynnwys wyth buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.

Mae Pen-y-bont ar rediad o saith gêm gynghrair heb golli, gan ildio ddwywaith yn unig yn ystod y cyfnod hwnnw.

Y Seintiau Newydd sydd â record ymosodol orau’r gynghrair (sgorio 2.75 gôl y gêm), ond Pen-y-bont sydd â’r record amddiffynnol gryfaf (ildio 0.58 gôl y gêm).

Rhoddodd Pen-y-bont dipyn o fraw i’r Seintiau y tymor diwethaf gyda tîm Rhys Griffiths yn eistedd ar frig y tabl dros gyfnod y Nadolig.

Llwyddodd y Seintiau i gamu ‘nôl i’r copa yn ystod ail ran y tymor gan ennill 12 gêm gynghrair yn olynol a gorffen yr ymgyrch 14 pwynt uwchben Pen-y-bont, ond bydd y Gleision yn gobeithio am ras tipyn tynnach am y bencampwriaeth eleni.

Record gynghrair ddiweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Pen-y-bont: ͏✅✅✅➖✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.