Cyhuddo menyw, 31, o ladd bachgen ym Mhen-y-bont
Mae'r heddlu wedi cyhuddo menyw 31 oed o lofruddiaeth fel rhan o ymchwiliad i farwolaeth plentyn dwy oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Fe ymddangosodd Natalie Steele o Broadlands, Pen-y-bont ar Ogwr o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher.
Bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau.
Cafodd Reid Steele, dwy oed, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd nos Fercher, 11 Awst, wedi'r digwyddiad yn ardal Broadlands.
Bu farw'r diwrnod canlynol (dydd Iau, Awst 12).
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies: “Mae hwn yn achos dirdynnol i bawb dan sylw ac mae fy meddyliau’n mynd allan i deulu Reid sy’n parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.
"Mae achos cyfreithiol bellach yn fyw, ac er fy mod yn gwerthfawrogi bod pryderon yn y gymuned, byddwn yn annog pobl rhag dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol.
"Mae ein hymchwiliad yn parhau ac anogir unrhyw un sy'n credu bod ganddynt wybodaeth berthnasol i gysylltu.
"Mae'r teulu'n gofyn yn barchus am y llonydd i alaru ar yr adeg anodd hon."
Fe all unrhyw un sydd gan wybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda Heddlu'r De gan ddefnyddio'r cyfeirnod 282674.