Ymestyn dedfryd carchar dyn wnaeth ymosod ar fenyw feichiog
Mae dyn o'r Rhyl oedd eisoes yn y carchar am ddelio cyffuriau wedi ei garcharu am chwe mis ychwanegol am ymosod ar fenyw feichiog.
Cafodd James O’Connor, 31 oed, gynt o East Parade, Y Rhyl, ei garcharu am bedair blynedd a hanner am gyfres o droseddau cyffuriau fis diwethaf.
Fe wynebodd ddau gyhuddiad o ymosod mewn achos ar wahân yn Llys Ynadon Llandudno.
Roedd y dioddefwr yn fenyw 24 oed, a oedd yn feichiog adeg yr ymosodiad cyntaf yn y Rhyl ar 25 Gorffennaf 2025.
Ymosodwyd arni eto gan O’Connor ar y 5ed o Awst 2025.
Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 26 wythnos am y troseddau, ac fe gafodd orchymyn atal pum mlynedd sy'n gwahardd cyswllt â'i ddioddefwr.