Creu cwmni kefir ar ôl salwch bachgen ifanc

Creu cwmni kefir ar ôl salwch bachgen ifanc

Cafodd cwmni teuluol sy'n cynhyrchu 'kefir' poblogaidd ei sefydlu yng Ngheredigion er mwyn gwella cyflwr iechyd eu mab, ddegawd yn ôl.

Fe sefydlodd Shann a Richard Jones eu cwmni Chuckling Goat “ar fwrdd y gegin” yn 2014 wedi i’w mab, Benji, ddechrau dioddef gyda chyflwr croen ecsema pan yn fachgen ifanc. 

Mae kefir yn ddiod sy'n cael ei greu drwy gymysgu bacteria a burum gyda llaeth o eifr, gwartheg neu ddefaid.

Fel un oedd â'i wreiddiau yng nghefn gwlad gyda phrofiad o gadw geifr, roedd Richard yn benderfynol o ddod o hyd i ateb i helpu ei fab. 

“Wedes i wrth Shann, ‘Reit ma’ rhaid cadw gafr eto’ achos mae llaeth y gafr yn helpu shwt clefyd fel ‘ny,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

“O’n i’n meddwl bod pawb yng Nghymru yn gwybod ‘ny, ond mae’n debyg dydyn ni ddim!”

Image
Shann a Benji
Shann gyda'i mab Benji pan oedd yn fachgen ifanc

Fe wnaeth ecsema Benji wella yn gyfan gwbl, ac fe dyfodd y busnes o'r cyfnod hwnnw. 

Bellach mae’r fferm ym Mrynhoffnant, Ceredigion yn un o gwmnïau gwerthu kefir mwyaf y DU. 

Mae’n rhan o farchnad fyd-eang gwerth £6 biliwn sy’n parhau i dyfu – ac mae disgwyl i hynny ddyblu yn ystod y ddegawd nesaf.  

Image
Benji a Shann
Mae Benji bellach yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Beth yw kefir?

Mae Kefir yn ddiod probiotig y mae nifer cynyddol o bobl yn ei yfed – ond dyw e ddim yn cael ei adnabod am ei flas melys meddai Shann, sy’n wreiddiol o’r Unol Daleithiau. 

“Dyw kefir go iawn ddim yn felys, mae’n sur iawn, mae’n befriog, ac mae’n hynod o bwerus.” 

Mae’n dweud y gallai’r ddiod wella iechyd y perfedd, yn ogystal â chyflyrau'r croen, gan fod hynny i gyd yn gysylltiedig â microbiom y perfedd.

Image
Gafr
Mae cwmni Chuckling Goat yn defnyddio llaeth geifr er mwyn creu kefir

Yn ôl un dietegydd sy’n arbenigo mewn triniaethau ar gyfer clefyd coluddyn llidus (‘irritable bowel syndrome’), fe allai kefir gynorthwyo perfedd iachus drwy helpu bacteria da i dyfu yno. 

Mae’r microbiom – sef casgliad o dros 39 triliwn math o facteria, ffyngau a firysau yn y corff – yn newid o hyd, meddai Debra Thomas o FODMAP Consultancy yng Nghaerdydd. 

A hithau’n helpu cleifion ar hyd a lled y DU, mae’n dweud y gallai kefir helpu sicrhau bod yna amrywiaeth yn y microbiom gan wella imiwnedd pobl – a bod hynny hefyd yn gallu cynnig manteision o ran iechyd meddwl a phwysau corfforol unigolion.

Image
Debra Thomas
Y dietegydd arbenigol Debra Thomas

Diod 'traddodiadol'

Er bod y farchnad ryngwladol ar gyfer probiotigau wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dyw eu defnydd ddim yn “newydd o gwbl,” meddai un arbenigwr. 

Yn ôl Dr Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae kefir yn ddiod “traddodiadol” sydd wedi cael ei ddefnyddio “am ganrifoedd o leiaf” yng ngwledydd ledled gorllewin Asia. 

Image
Dr Rhodri Griffiths
Dr Rhodri Griffiths

Mae “cynnydd aruthrol” wedi bod yn y farchnad am kefir yn agosach i adref erbyn hyn meddai.

“Mae rhaid meddwl os mae pobl wedi parhau i ddefnyddio pethau dros ganrifoedd, mae'n rhaid bod ‘na ryw fudd i bethau.”

Mae Dr Griffiths yn annog pobl i fod yn ymwybodol bod yna wahaniaethau rhwng kefir sydd ar gael i brynu fel diod, o gymharu â kefir sydd ar gael i brynu gan fferyllydd. 

“Mae rhaid i ryw beth fel ‘na mynd trwy clinical trials felly oherwydd bod y rhan fwyaf yn cael eu gwerthu fel food supplements a ddim cyffuriau, mae ‘na wahanol systemau sydd yn llai arbenigol i’w brofi,” meddai.

'Heulog'

Mae Shann Jones yn dweud bod ei theulu wedi profi buddion kefir yn uniongyrchol a’u bod yn awyddus i helpu pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. 

Bu ei gŵr Richard yn byw gyda salwch difrifol am gyfnod, wedi iddo gael diagnosis o lid briwiol y colon (‘ulcerative colitis’), yn ogystal â haint MRSA all arwain at friwiau poenus ar y croen. 

“Yn anffodus dath y kefir bach yn hwyr ac oedd rhaid i fi cael sawl llawdriniaeth yn yr ysbyty,” meddai Richard.  

“Ond nawr dwi’n yfed e bob dydd a sai’ ar dim moddion na dim byd am y 10 mlynedd dwetha.” 

Image
Shann a Richard

Mae ei wraig yn cofio’n “glir iawn” y cyfnod yma yn ei bywyd, pan oedd ei mab a’i gŵr yn sâl.

Dyma pa bryd y dechreuodd yr egin syniad am fusnes newydd dyfu.

“Mewn gwirionedd fe dyfodd y busnes o angen i helpu aelodau teulu ein hunain achos doedd y doctoriaid ddim yn gallu gwneud unrhyw beth i ni.

"Da ni wedi dod drwy cyfnodau dychrynllyd iawn, ond 'da ni mewn lle heulog nawr."

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn profi symptomau salwch fe ddylech chi fynd at eich meddyg teulu am gyngor arbenigol fel cam cyntaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.