Dedfrydu dyn am redeg gweithrediadau gwastraff anghyfreithlon mewn rhannau o Gymru
Mae dyn oedd yn rhedeg gweithrediadau gwastraff anghyfreithlon mewn tri safle ledled Cymru wedi cael ei ddedfrydu.
Fe gafodd Stephen Williams, 69, o Ben-y-bont ar Ogwr ei ddedfrydu am redeg gweithrediadau gwastraff anghyfreithlon yng Nghaerffili, Dolgellau a'r Bont-faen, a chael gwared o dros 2,600 tunnell o wastraff tecstilau halogedig.
Mae hefyd wedi cael ei orchymyn i ad-dalu £322,500.
Methodd â symud gwastraff ac fe adawodd tirfeddianwyr gyda chostau clirio enfawr yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Roedd y gwastraff hefyd yn peri risg tân difrifol.
Roedd y cyhuddiadau yn erbyn Mr Williams a'i gwmnïau'n cynnwys gweithredu safleoedd gwastraff heb drwyddedau amgylcheddol, cymysgu a methu â chymryd camau priodol i atal gwarediadau anghyfreithlon gan eraill.
Fe wnaeth swyddogion ddarganfod 1,843 tunnell o wastraff tecstilau yng Nghaerffili, 260 tunnell o wastraff tebyg yn y Bont-faen, a 527 tunnell o wastraff yn Nolgellau.
Fe gafodd Mr Williams ei ddedfrydu i 21 mis o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn iddo ad-dalu £322,500 o dan y Ddeddf Enillion Troseddu.
O dan y Ddeddf Enillion Troseddu, penderfynodd y llys fod Mr Williams wedi gwneud elw o £470,189.41 o'i droseddau amgylcheddol yn seiliedig ar incwm o waredu gwastraff yn anghyfreithlon ar draws tri safle, costau treth tirlenwi y gwnaeth eu hosgoi, a llog a oedd wedi cronni ers 2019.
Dywedodd Su Fernandez, Uwch Swyddog Gorfodi ar gyfer CNC: "Yn yr achos hwn, anwybyddodd Stephen Williams gyfraith amgylcheddol yn barhaus.
"Roedd y gwastraff yn peri risg tân sylweddol ac yn y diwedd bu rhaid i’r tirfeddianwyr dalu costau glanhau sylweddol.
"Er iddo gael hysbysiadau cyfreithiol, methodd Mr Williams â chymryd camau gweithredu."