Cau ysgol ar ôl marwolaeth annisgwyl merch wyth oed

Ysgol Gynradd Penrhys

Mae ysgol yn Rhondda Cynon Taf wedi cau ddydd Iau ar ôl marwolaeth annisgwyl merch fach wyth oed yno.

Dywedodd prifathro Ysgol Gynradd Penrhys, Andrew Williams ei fod yn ddiolchgar i’w rhieni am eu cefnogaeth wedi’r digwyddiad brynhawn Mercher.

“Oherwydd y digwyddiad trawmatig a ddigwyddodd yn ein hysgol hyfryd y prynhawn yma, byddwn ar gau i bob plentyn yfory,” meddai.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu De Cymru bod y gwasanaethau brys wedi eu galw i ysgol gynradd yn Glynrhedynog yn fuan wedi 14.00 ddydd Mercher.

“Fe gafodd y ferch ei chludo i’r ysbyty a bu farw yno yn hwyrach,” medden nhw.

“Does yna ddim amgylchiadau amheus ac mae’r ymchwiliad ar ran y crwner yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.”

Dywedodd cynghorydd Pendyrus ac Ynyshir, Julie Edwards, ei bod hi wedi cael gwybod am y “digwyddiad trasig” a’i bod yn galw ar bobl leol i “beidio dyfalu a lledaenu camwybodaeth”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.