Arestio dyn ar ôl ymosodiad ar ddynes oedd yn mynd â’i chi am dro

Parc Eirias

Mae dyn wedi ei arestio ar ôl ymosodiad honedig ar ddynes oedd yn mynd â’i chi am dro ym Mae Colwyn.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi ei arestio nos Fercher.

Maen nhw’n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad yn ardal Parc Eirias rhwng 19.00 a 20.00 ddydd Llun.

Dywedodd yr heddlu fod yr ymosodiad wedi digwydd ar gyffordd Ffordd Abergele a Ffordd Groes.

Maen nhw'n annog unrhyw un a oedd yn gyrru drwy'r ardal, neu a ymwelodd â Chanolfan Hamdden Parc Eirias neu'r caeau chwaraeon cyfagos yn ystod y cyfnod perthnasol, ac a allai fod â lluniau camera dashfwrdd, i gysylltu â nhw.

Mae'r llu yn dweud gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101, neu drwy’r wefan, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod C015799.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.