Powys: Cynlluniau 'cyffrous' i agor ysgol Gymraeg newydd 'gam yn nes'

Ysgol Calon Cymru

Mae cynlluniau “cyffrous” i agor ysgol gyfrwng Gymraeg newydd i blant o bob oedran ym Mhowys gam yn nes, meddai arweinwyr yn y sir.

Mae’r cynlluniau yn cynnig y dylai ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i bob oed (4-18) gael ei sefydlu ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt. 

Mae disgwyl i'r cynlluniau fynd o flaen Cabinet y cyngor sir ddydd Mawrth.

Fe fyddai’r cynlluniau yn golygu dod â’r ddarpariaeth Gymraeg i ben yn raddol yn ysgol ddwyieithog Ysgol Calon Cymru, sydd â champysau yn Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod. Ni fyddai gan Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt ffrwd Gymraeg mwyach, chwaith.

Byddai Ysgol Calon Cymru yn symud i'r campws yn Llandrindod yn unig a'r ysgol newydd Gymraeg i bob oed yn meddiannu campws Llanfair-ym-Muallt.

Fe wnaeth y cyngor gynnal ymgynghoriad saith wythnos rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2025 a bydd canfyddiadau'r adroddiad ymgynghori yn cael eu hystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Powys sy’n gyfrifol am Addysg, ei fod yn diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgynghori.  

“Ar ôl ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad, yr argymhelliad a gyflwynir i'r Cabinet yw parhau â'r cynnig trwy gyhoeddi'r hysbysiad statudol sy'n cynnig y newid yn ffurfiol,” meddai. 

"Mae wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn bod model dau safle Ysgol Calon Cymru yn achosi heriau tra nad yw'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol ei hun a'r dalgylch ehangach yn bodloni ein dyheadau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

"Byddai’r cynigion yn gweld yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf i bob oed yn cael ei sefydlu yng nghanol Powys a fyddai’n darparu profiad cyfrwng Cymraeg gwell i’n dysgwyr tra gellid darparu cwricwlwm ehangach i ddysgwyr cyfrwng Saesneg a fyddai i gyd ar un campws, gan ddileu’r angen iddyblygu darpariaeth cyfrwng Saesneg ar draws dau safle.”

Pe bai'r Cabinet yn penderfynu cyhoeddi Hysbysiad Statudol, ni fyddai hwn yn cael ei gyhoeddi tan ar ôl hanner tymor. Yna byddai cyfnod o 28 diwrnod i bobl gyflwyno gwrthwynebiadau ysgrifenedig i'r cynnig.

Llun: Ysgol Calon Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.