Adroddiad arbennig: Beth sy'n ffaelu yng Nghaerffili?
Beth sy’n ffaelu yng Nghaerffili? Gohebydd gwleidyddol Newyddion S4C, Jacob Morris, sydd wedi bod ar grwydr yng Nghaerffili.
“We need some change, love.”
Dyna gais menyw gyfeillgar wrth gael ei gweini mewn bar yng Nghaerffili.
Dydd Iau yw hi, newydd droi’n hanner dydd, a’r lle’n prysur lenwi ar gyfer pnawn Bingo i bobl dros eu 50.
Ac wrth i’r gweinydd estyn o’r tu draw i’r bar, newid mewn ceiniogau i’r fenyw allu chwarae’r gêm, rwy’n cael yr argraff bod yma awch am newid arall. Newid cyfeiriad.
A gyda’r is-etholiad ymhen cwta bythefnos, ai dyma’r cyfle i wireddu’r newid hwnnw yng Nghaerffili?
Swil yw’r gynulleidfa yn y neuadd Fingo ynghylch pa fath o newid sydd eisiau, ond mae pynciau cyfarwydd yn raddol ddod i’r amlwg.
Pensiynau. Tâl tanwydd y gaeaf. Costau byw.
Image
Karen Evans
Wrth grwydro’r dre, rwy’n cyrraedd siop Y Galeri yng nghysgod y Castell enwog. Rwy’n cwrdd â’r perchennog Karen Evans. Materion lleol sy’n ei phoeni.
“Stad y sbwriel ar y llawr. S’dim lot i blant ifanc neud rownd fan hyn ar hyn o bryd, ac ma lot o unedau busnes yn wag," meddai.
“Mae’n ddrud i logi lle yng Ngaherffili a phobl methu fforddio i gael siop yma ragor.”
Yng nghaffi Rosita’s, mae Alan Parry Thomas yn gweithio fel gweinydd, a chyfleusterau i’r gymuned sydd ar frig ei fwydlen wrth bleidleisio.
“Yr unig beth sy’n poeni fi yw y gallwn ni neud gyda gwell parcio ac efallai y byddai’r trens yn gallu bod yn well yn lle bod nhw’n newid a defnyddio bysus o hyd.”
Ers misoedd bellach mae cau llyfrgelloedd hefyd wedi bod yn bwnc llosg yn yr ardal. Ymdrech gan y cyngor i arbed £29 miliwn i fynd i’r afael â bwlch ariannol sylweddol.
Image
Denzil John
“Prinder sydd o arian,” meddai Denzil John, cyn-weinidog sydd wedi byw yn yr etholaeth ers y 70au.
“Ychydig o lyfrgelloedd fydd ar ôl yn y sir oherwydd eu bod nhw wedi gorfod cau gymaint o wasanaethau cyhoeddus. Ac mae hynny’n destun pryder i lot o bobl.”
Nesa, rwy’n yn dod ar draws Brenda. Hithau a’i ffrindiau yn mwynhau pryd o ginio y tu allan i fecws. Does gan Brenda ddim llawer o amynedd i wleidyddion.
"They're only in it for themselves," meddai.
"And now I’m being taxed on my pension because I am a tad over that what I can live on. It’s wrong ain't it."
“You’ve put me off my pasty now!” mae un o ffrindiau Brenda yn bloeddio. Y sgwrs amlwg ddim at ei dant.
Er i sgwrsio am ymgyrch etholiad adael blas cas i rai yn yr ardal hon, mae wythnosau o ymgyrchu yn dal i ddod.
Image
Alan Parry Thomas
A dydy materion tramor ddim yn bell o feddyliau rhai fel Lee Duncan. Yn gweithio gyda Byddin yr Iachawdwriaeth ,mae tlodi yn destun sy’n ei boeni ond mae digwyddiadau tramor yn bryder.
“Mae’r lle wedi newid. Mae newid yn beth naturiol, on’d yw e? Ond dwi eisiau gweld pobl yn fwy caredig â’i gilydd. Mae’r byd i weld yn fwy peryglus y dyddiau hyn - jyst edrych ar America, a’r dyn sydd in charge fanna.”
Fe fydd yr is-etholiad hwn yn rhoi syniad fwy cadarn i ni o beth allwn ni ddisgwyl erbyn Mai’r flwyddyn nesa.
Dyma ardal lle mae gan Lafur afael gadarn ers degawdau, ond fe all y gefnogaeth honno grebachu erbyn etholiadau’r Senedd ymhen ychydig dros chwe mis.
Yn ôl yr arolygon barn diweddara yng Nghymru, mae’n ymddangos mai Plaid Cymru a Reform sydd ar y blaen ar hyn o bryd, gyda Llafur - sydd wedi bod wrth y llyw ers dechrau datganoli - yn llithro.
Felly mae’n bosibl, chwedl y fenyw wrth y bar yn y Bingo, fod newid ar droed. Ond y dasg i’r enillydd fydd sicrhau fod y bobl yma yn teimlo eu bod ar eu hennill wedi’r is-etholiad.