Dau ddyn yn y llys yn dilyn achos honedig o saethu
Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad ag achos honedig o saethu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae Kian Darkes, 20 oed, a Kyle Long, 39 oed, yn wynebu sawl cyhuddiad ar ôl i fwledi gael eu darganfod mewn drws tŷ ym Maesglas yn Y Pîl ar ddydd Llun 22 Medi.
Mae Darkes yn wynebu pedwar cyhuddiad, sef bod â dryll yn ei feddiant â bwriad i beryglu bywyd, bod â dryll wedi’i lwytho yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, cynllwynio i achosi niwed corfforol a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol.
Mae Long yn wynebu’r un cyhuddiadau â Darkes, yn ogystal â chyhuddiad ychwanegol o fod â chyffur anghyfreithlon yn ei feddiant, sef cocên.
Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun, cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa tan eu hymddangosiad llys nesaf, yn Llys y Goron Caerdydd ar 3 Tachwedd.
Mae Heddlu De Cymru wedi diolch i’r gymuned yn ardal Y Pîl am eu “cefnogaeth drwy gydol yr ymchwiliad”.