Apêl wedi i fan a charafán gael eu 'llosgi'n fwriadol' mewn pentref yn y gogledd

Cristionydd, Penycae

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn sawl achos o losgi bwriadol dros gyfnod o ddwy awr mewn pentref yng ngogledd Cymru.

Cafodd swyddogion eu galw i ardal Cristionydd ym mhentref Penycae, yn Sir Wrecsam, toc cyn 21.00 ar nos Lun 6 Hydref.

Roddent yn ymateb i adroddiadau bod fan wedi’i llosgi’n fwriadol.

Am 21.12 yr un noson, fe wnaeth swyddogion ymateb i adroddiad o ddifrodi troseddol honedig mewn tŷ yn Millars Court yn yr un pentref, wedi i ffenestri gael eu torri.

Yna am tua 23.00, fe gafodd carafán ar Stryd Lampitt ym Mhenycae ei rhoi ar dân, gyda swyddogion yn credu ei fod wedi’i llosgi’n fwriadol.

Dywedodd Arolygydd ardal wledig Wrecsam, Stefan Lederle: “Mae ein hymholiadau’n parhau, ac fe fyddwn yn cynyddu ein presenoldeb yn yr ardal.

“Rwy’n gofyn i unrhyw unigolyn a fyddai wedi gweld y digwyddiadau yma, neu unrhyw un â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliadau, i gysylltu â ni cyn gynted â phosib.”

Llun: Ardal Cristionydd, ym Mhenycae (Google Maps)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.