Bwriad i ddymchwel cyn lyfrgell a hen orsaf heddlu Llanrwst
Mae cynlluniau ar y gweill i ddymchwel cyn lyfrgell ac adeiladau'r orsaf heddlu yn nhref Llanrwst yng Nghonwy.
Mae'r ddau adeilad yn wag ar ôl i'r llyfrgell a'r orsaf heddlu symud i adeilad Glasdir gerllaw yn y blynyddoedd diwethaf.
Nawr mae Cyngor Conwy wedi gwneud cais i'w hadran gynllunio eu hunain er mwyn cael caniatad i ddymchwel yr adeiladau.
Dyw hi ddim yn glir beth fyddai yn dod yn lle'r llyfrgell a'r orsaf heddlu ar hyn o bryd. Ond mae Cyngor Tref Llanrwst wedi cefnogi bwriad yr awdurdod lleol.
Maent wedi dweud mewn llythyr i Gyngor Conwy eu bod yn cefnogi'r cais cynllunio "ar yr amod bod y Cyngor Tref yn cael gwybod gan Gyngor bwrdeistref Conwy eu bwriad ar gyfer defnydd y tir i'r dyfodol".
Maent hefyd yn dweud y dylai unrhyw ddatblygiad ar y safle fod "er lles trigolion Llanrwst".
Fe fydd y cynlluniau yn cael eu trafod mewn cyfarfod o bwyllgor cynllunio'r sir yn y dyfodol.