Pryderon am ddiogelwch casgliadau cenedlaethol eraill Cymru ar ôl lladrad Sain Ffagan
Pryderon am ddiogelwch casgliadau cenedlaethol eraill Cymru ar ôl lladrad Sain Ffagan
Mae yna bryderon dros ddiogelwch casgliadau amgueddfeydd eraill yng Nghymru ar ôl i emwaith aur gael ei ddwyn o Sain Ffagan.
Dywedodd yr heddlu brynhawn ddydd Mawrth bod dynion 43 a 50 oed o dref Northampton wedi eu harestio a’u bod yn y ddalfa yn Sir Northampton.
Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am yr eitemau, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, a gafodd eu dwyn o arddangosfa yn y prif adeilad tua 00:30 fore dydd Llun.
Dywedodd Heledd Fychan, AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, ei bod yn pryderu a allai arteffactau pwysig eraill fod mewn perygl.
“Mae’n rhaid i ni gael gwybod sut mae hyn wedi digwydd ac a oes risg i weddill ein casgliadau cenedlaethol?” gofynnodd.
“Y sicrwydd ydw i eisiau gan Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru ydi nad ydi’r toriadau a’r sefyllfa gyllidol ddifrifol ydan ni wedi ei gweld wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd at hyn.”
Wrth siarad yn Siambr y Senedd dywedodd: “Dyma gasgliadau pobl Cymru, dyma ein casgliadau cenedlaethol ni.
“Rydym wedi cael sawl trafodaeth yma ynglŷn â diogelwch y casgliadau cenedlaethol, a rhybuddion oherwydd toriadau i’r sector bod diogelwch y casgliadau dan fygythiad.”
'Prin'
Dywedodd Alun Hughes, cyn arolygydd gyda Heddlu’r Gogledd wrth Newyddion S4C: “Mae yna fwy o hyn mae’n debyg yn digwydd dros y byd.
“Diolch byth dydi o ddim yn digwydd yn aml iawn ym Mhrydain ac yn sicr ddim yng Nghymru. Felly o ran hynny mae o’n sioc.
“Y peth fydd rhaid i ni ffeindio allan, y bydd rhaid i’r heddlu De Cymru ffeindio, ydi faint o ddiogelwch oedd gan Heddlu De Cymru yn ei le.”
Dywedodd Dr Tudur Davies, archeolegydd o Brifysgol Caerdydd ei fod yn “ergyd i’r genedl”.
“Da ni byth prin yn ffeindio aur neu metal gwerthfawr,” meddai. “Maen nhw’n brin iawn ar draws Ewrop a bod yn onest.”
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn y Senedd ddydd Llun fod y lladrad yn “golled erchyll, erchyll”.
“Rydym ni, rwy’n siŵr, wedi ymuno ar draws y siambr hon i fynegi dicter at y troseddwyr a ymosododd ar amgueddfa sy’n annwyl gan y cyhoedd, ac am y difrod maen nhw wedi’i wneud i’n treftadaeth genedlaethol,” meddai.
“Mae Amgueddfa Cymru wedi cynyddu diogelwch ym mhob un o’i safleoedd ac mae hefyd yn edrych gyda Heddlu De Cymru i weld a ddylid cymryd unrhyw ragofalon pellach.”