Menyw a gollodd ei gŵr yn galw ar ysbyty i newid meddwl ar uned arbenigol

ITV Cymru
Rhian Pound-McCarthy

Mae menyw a gollodd ei gŵr i ganser flwyddyn yn ôl wedi galw ar fwrdd iechyd i newid meddwl ar y gofal sy’n cael ei gynnig gan un o’i ysbytai.

Ni fydd gofal lliniarol yn cael ei gynnig mewn ysbyty yn Rhondda Cynon Taf ar ôl yr hyn y mae'r bwrdd iechyd yn ei ddisgrifio fel "heriau staffio sylweddol".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bod ward chwech Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar, wedi'i newid yn ffurfiol o ward gofal lliniarol arbenigol i un a all ddarparu gofal iechyd diwedd oes a chyffredinol.

Mae dros 3,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu’r penderfyniad.

Mae gofal lliniarol (palliative care) yn ofal sy’n canolbwyntio ar leddfu poen a symptomau salwch difrifol neu angheuol, yn hytrach nag ar geisio gwella’r salwch ei hun.

Roedd gan y ward wyth gwely gofal lliniarol arbenigol.

Dim ond 16 gwely arall sy’n darparu gofal lliniarol arbenigol ar draws draws safleoedd y bwrdd iechyd ym Merthyr Tudful, Llantrisant a Phen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Rhian Pound-McCarthy a gollodd ei gwr Lee i ganser flwyddyn yn ôl bod y gwasanaeth “yn hollol angenrheidiol”.

“Peidiwch a gwneud hyn. Peidiwch a’i gymryd i ffwrdd,” meddai.

“Pan fyddwch chi'n wynebu diagnosis terfynol, dydych chi ddim yn gwybod pryd y bydd y diwrnod hwnnw'n dod, ond mae ymyl y diwrnod hwnnw'n agosáu bob dydd.

"Mae ar flaen eich meddwl i wneud y penderfyniad hwnnw ynglŷn â sut rydych chi am farw, ac nid yw'n benderfyniad y gallwch chi ei wneud yn ysgafn.

“Felly, mae cael mynediad at rywle sydd wedi'i neilltuo i'r math yna o ofal, oherwydd dyna sydd ei angen arnoch chi. Ac i gael staff sydd â phrofiad llwyr ym mhob math o ddiwedd oes, mae'n gymaint o gysur.”

Mae’r ddeiseb yn erbyn y newid yn dweud y byddai yn golygu bod “cleifion ymhell o’u teuluoedd ar adeg hollbwysig, gan eu gadael heb amgylchedd cyfarwydd â phresenoldeb cysurol teulu a chyfeillion”.

“I'r rhai yng Nghymoedd Merthyr a Chynon, mae Ward 6 yn Ysbyty Cwm Cynon wedi bod yn oleudy o obaith ac urddas yn ystod oriau tywyllaf bywyd," meddai.

Ymateb

Dywedodd y bwrdd iechyd fod y newid yn un dros dro ar hyn o bryd a bydd yn destun ymgynghoriad, ond ei fod wedi'i wneud ar "sail diogelwch clinigol".

Nid oedd wedi gweithredu fel uned gofal lliniarol arbenigol ers mis Ionawr 2024 oherwydd "heriau staffio meddygol sylweddol", a dywedodd "na fyddai darparu gofal lliniarol arbenigol ar safle heb yr arbenigedd clinigol priodol yn ddiogel nac er budd cleifion".

Dywedodd Dom Hurford, cyfarwyddwr meddygol gweithredol y bwrdd iechyd: “Rydym yn parhau i ddarparu gofal diwedd oes yn Ysbyty Cwm Cynon.

“Mae'r newid yn ymwneud â gofal lliniarol arbenigol, sy'n cefnogi pobl â chyflyrau cymhleth iawn sy'n cyfyngu ar eu bywydau, nid yn unig ar ddiwedd oes, ond drwy gydol eu salwch i reoli symptomau a rheoli poen.

“Dim ond nifer fach iawn o bobl sydd angen y gofal arbenigol hwn, gyda'r mwyafrif angen cymorth diwedd oes gartref neu mewn gwelyau ysbyty cymunedol cyffredinol, gan gynnwys yn Ysbyty Cwm Cynon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.