Timau achub Eryri yn cael eu rhoi mewn 'peryg diangen'
Mae Timau Achub Mynydd Llanberis, Dyffryn Ogwen ac Aberglaslyn wedi cyhoeddi neges ar y cyd yn dweud eu bod nhw'n cael eu rhoi mewn "peryg diangen" gan bobl sydd yn mynd i ddringo mewn tywydd garw.
Fe gafodd y timau eu galw i ddau ddigwyddiad dros y penwythnos pan oedd rhybudd tywydd mewn grym am wyntoedd cryfion. Roedd un ar fynydd Tryfan a'r llall yn ddigwyddiad lle'r oedd dau berson wedi trio dringo Crib Goch.
Maent yn dweud nad oedd y bobl wedi paratoi ar gyfer y tywydd heriol.
"Er y byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i gyrraedd a chynorthwyo'r rhai mewn angen, rydym am ddweud yn ddi-flewyn ar dafod — os yw'r tywydd yn rhy beryglus, mae'n bosibl na fydd hyd yn oed y tîm achub mynydd yn gallu eich cyrraedd ar frys," medden nhw.
"Mewn rhai sefyllfaoedd, gallech fod yn aros am amser maith cyn y gall cymorth eich cyrraedd yn ddiogel."
Yn ôl Jurgen Dissmann, Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis mae yna adegau pan mae'r "llwybrau symlaf yn eithriadol o beryglus" ac mae angen meddwl yn ofalus cyn mynd i fynydda.
Mae Stu Meades, Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw ystyried eu diogelwch eu hunain pan yn mynd i helpu eraill.
"Mae ein gwirfoddolwyr yn hyfforddi a pharatoi ar gyfer amodau heriol, ond mae 'na derfynau ar yr hyn sy'n ddiogel, hyd yn oed i ni," meddai.
"Da chi, parchwch y mynyddoedd a'r tywydd - gwnewch benderfyniadau doeth a pheidiwch â rhoi eich hun na'r timau achub mewn perygl diangen."
Llun: Timau Achub Mynydd Llanberis, Dyffryn Ogwen ac Aberglaslyn