Sir Benfro: Pobi miloedd o gacenni er cof am ferch 12 oed fu farw

Honey Foxx French

Mae digwyddiad cymunedol wedi codi dros £7,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru drwy bobi miloedd o gacenni, a hynny er cof am ferch 12 oed a fu farw'r llynedd.

Fe fuodd Honey Foxx French, o Hakin, Aberdaugleddau, Sir Benfro farw ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw i dŷ ar 19 Hydref.

Dywedodd ei rheini Jessica Foxx ac Alan French mai nod y digwyddiad ‘Bake Off’ ar yr hyn fyddai wedi bod yn ei phen-blwydd yn 13 oed oedd cefnogi'r elusen a oedd o gymorth iddyn nhw ar y diwrnod y bu Honey farw.

Daeth teulu a ffrindiau at ei gilydd ym mhentref Johnston i bobi, addurno a rhoi 2,400 o gacennau bach mewn bocsys er cof amdani.

Dywedodd mam Honey, Jessica bod ei merch yn “gymeriad” a'i bod yn gwybod “y byddai yn gwneud gwahaniaeth yn y byd hwn”. 

“Rydyn ni wedi crio dagrau hapus wrth wneud hyn i Honey,” meddai.

“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn llethol. Doeddwn i byth wedi dychmygu y byddai’n tyfu mor fawr â hyn.

“Honey-bee oedd yr un fwyaf annwyl o’r holl ferched bach. Roedd ei chwerthin yn ddigywilydd, ac yn heintus. 

“Hyd yn oed os oedd ei jôcs yn croesi llinell o dro i dro, doedd dim modd ond chwerthin - roedd hi’n ddoniol iawn.”

Image
Rhieni Honey

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn parhau i weithredu, medden nhw.

Dywedodd Emma Moore o’r elusen, sydd wedi dod yn ffrind i’r teulu ers y digwyddiad: “Mae’n ffordd hyfryd o gofio Honey a nodi'r hyn a fyddai wedi bod yn 13eg pen-blwydd iddi.

“Mae'r dewrder a ddangoswyd gan deulu Honey wedi cyffwrdd pawb,” meddai.

“Roedd Honey yn swnio fel merch wych a wnaeth wahaniaeth yn y byd hwn, rhywbeth y mae ei theulu yn parhau i'w wneud er cof amdani.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.