'Argyfwng': Pryder mawr am effaith tariffau newydd ar ddiwydiant dur Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n "bryderus iawn" ynglŷn â chynnydd posib mewn tariffau dur gan yr Undeb Ewropeaidd.
Bwriad y Comisiwn Ewropeaidd yw gosod tariffau o 50% ar ddur, sydd dwbl y lefel bresennol o 25%.
Mae Cymdeithas Fasnach Dur y DU wedi dweud ei fod yn bosib mai dyma'r "argyfwng mwyaf mae diwydiant dur y DU wedi wynebu erioed".
Mae'r un lefel ar ardoll y gwnaeth Trump osod yn y gorffennol ar yr Undeb Ewropeaidd.
Yr UE yw marchnad allforio dur mwyaf Prydain gyda 78% o gynnyrch dur sydd yn cael ei wneud yn y DU yn mynd i Ewrop.
Mae disgwyl i'r cynllun newydd ddod i rym flwyddyn nesaf os bydd yn cael ei gymeradwyo gan fwyafrif yr aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.
Daw yn sgil pwysau gan rhai aelodau i gystadlu gyda mewnforion dur rhad o wledydd fel China.
Mae Cymdeithas Fasnach Dur y DU wedi dweud bod angen i Lywodraeth San Steffan gael cytundeb ffafriol i Brydain gael cwotâu mewnforio eu hunain.
"Rhaid i’r llywodraeth wneud popeth posibl i fanteisio ar ein perthynas fasnachu â’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau cwotâu gwledydd y DU neu wynebu trychineb o bosibl," meddai'r Cyfarwyddwr Cyffredinol Gareth Stace.
Dywedodd bod angen i Lywodraeth y DU osod "mesurau yn eu lle i amddiffyn yn erbyn llwyth o fewnforion."
Ym Mhort Talbot fe gollodd 2,000 o bobl eu swyddi yng ngweithfeydd dur Tata y llynedd. Ond mae'r cwmni wedi newid i gynhyrchu dur mewn ffordd fwy gwyrdd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw yn parhau i gefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru. Maent yn dweud bod cyhoeddiad yr UE yn "bryderus iawn" ac y byddan nhw yn cydweithio gyda Llywodraeth y DU i amddiffyn "sgiliau" gweithwyr.
Yn ôl Prif Weinidog y DU, Keir Starmer mae yna "drafodaethau" yn digwydd gyda'r UE ynglŷn â'r tariffau. Dywedodd y byddai yn medru dweud "mwy ymhen amser".