Criw ifanc yn Aberystwyth yn creu ffilm i drafod galar

Criw ifanc yn Aberystwyth yn creu ffilm i drafod galar

Mae pobl ifanc yn Aberystwyth wedi bod yn creu ffilm i helpu pobl sydd wedi colli rhywun agos. 

Mae Tyfu Gyda Galar yn sôn am brofiadau pobl go iawn, ac yn delio â phwnc anodd.  

Mae'n brosiect rhwng pobl ifanc Aberystwyth, elusen Sandy Bear a chwmni theatr Arad Goch.

Ac mae'r criw ifanc wedi bod  yn brysur yn creu ffilm sy’n cynnig gobaith.

Mae’r ffilm wedi ei hysbrydoli gan brofiadau pobl ifanc sydd wedi colli rhywun agos, fel Molly Grainger.

“Collais i Dad. O'dd e'n amser rili galed i ni fel teulu, yn enwedig yn y dyddiau gynnar 'na," meddai.

"Mae'n bwysig iawn yn teimlo fel bod pobl ifanc yn gw'bod bo' rhywbeth 'da nhw, cymorth gyda nhw, dim fel 'sdim lot o cymorth yn y sir ‘ma, ond ma' cymorth 'na ond dy'n nhw jyst ddim yn gweld e.

“Ma' pobl yn mynd trwyddo fe, ti'mod, ma' pawb yn gallu dod trwyddo fe. There’s light at the end of the tunnel, type thing.”

Mae Megan yn un o'r actorion, ac yn credu bod gobaith yn elfen bwysig yn y ffilm.

“Enw’r ffilm ydy Tyfu efo Galar a ma’n dangos straeon o dau berson ifanc sy’n delio efo galar mewn ffyrdd gwahanol a mewn sefyllfaoedd gwahanol.

"Y neges ydy bod 'na gymaint o ffyrdd i bobl ifanc gael cefnogaeth efo galar."

Neges y prosiect yw bod cymorth ar gael i bobl ifanc sy’n galaru, ac mae Nel, sy'n actio yn y ffilm, yn falch iawn o’r cyfle i wneud gwahaniaeth.

“Fi'n rili rili prowd a hapus bo' fi 'di gallu bod yn rhan o hwn. Oedd e'n profiad anhygoel rili, oedd e mor cŵl cael gweld fel y camerâu a oedd e'n rhywbeth o'n i byth wedi profi o'r blaen,” meddai. 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.