'Moment na'i fyth anghofio': Steffan Lloyd Owen yn ennill Cystadleuaeth Opera Paris
'Moment na'i fyth anghofio': Steffan Lloyd Owen yn ennill Cystadleuaeth Opera Paris
Mae'r bariton o Fôn Steffan Lloyd Owen yn dweud fod ennill Cystadleuaeth Opera Paris yn "foment y bydd yn cofio am byth" ac yn "hwb mawr i'w yrfa".
Fe enillodd Steffan y gystadleuaeth, sydd yn un o'r rhai opera mwyaf yn y byd, nos Fawrth ym mhrifddinas Ffrainc.
"Ma'r Paris Opera Competition yn cael ei gynnal bob dwy flynedd a ma'r applications yn agored i unrhyw un yn y byd rhwng 18 a 35 oed," meddai Steffan wrth Newyddion S4C.
Fe wnaeth 800 o bobl ymgeisio ar gyfer y gystadleuaeth eleni, ac fe wnaeth Steffan gyrraedd y 50 uchaf a chystadlu yn y rownd gyn-derfynol ym mis Ebrill eleni.
"O'n i'n ffodus iawn wedyn i ddarganfod 'mod i wedi gwneud hi i'r rownd derfynol, i'r 10 uchaf, oedd yn cael ei chynnal ym Mharis," meddai.
"Oedd ennill y gystadleuaeth 'ma yn rwbath o'n i byth wedi dychmygu. Yr ymateb pan nathon nhw ddeud mai fi oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth yn rw’bath nesh i byth feddwl fysa’n digwydd."
Ychwanegodd: "O’n i’n ffodus iawn, teimlo’n ffodus iawn o gael drwadd i’r ffeinal, felly pan nathon nhw ddatgan fy mod i wedi ennill, o’dd o’n foment na’i fyth anghofio."
Mae ennill y gystadleuaeth hefyd wedi "rhoi pethau mewn perspectif", yn ôl Steffan.
Ym mis Medi y llynedd, fe aeth Steffan i'r Swistir i hyfforddi fel artist ifanc gyda Stiwdio Opera Rhyngwladol Zurich, wedi cyfnod o weithio yn y maes adeiladu yng Nghymru am dair blynedd cyn hynny.
Mae'r Tŷ Opera yn Zurich yn gyfle arbennig i gantorion ifanc i gael cyfle ar lwyfan rhyngwladol a phroffesiynol y byd opera, ac mae Steffan yno o hyd.
"Ma’ ennill y gystadleuaeth yma yn mynd i fod yn hwb mawr i’r gyrfa, ma’ hwn yn mynd i agor drysau wan. Ma’ ennill y gystadleuaeth yma hefyd wedi rhoi petha mewn perspectif," meddai.
"15 mis yn ôl, o’n i’n dal i weithio yn y maes adeiladu gyda fy nhad, a ma’ lle ydw i wan o gymharu efo lle o’n i gynt yn ddau fyd hollol ar wahan i'w gilydd.
"Ma’n mynd i ddangos pan ‘dach chi yn gweithio’n galed, ac yn gwneud y sacrifices anodd, mi gewch chi eich gwobrau yn diwadd."
Gyda'r gystadleuaeth yn cael ei hystyried fel un o'r rhai mwyaf yn y byd Opera, mae Steffan yn gobeithio y bydd ei hennill hi yn agor drysau.
"Ma'r pobl ar y panel 'di dechrau ffeindio gwaith i fi yn barod, ag yn y gwaith yma, ma' profiad yn bwysig iawn felly'r unig ffordd o gael profiad ydi gwaith, ag os 'dach chi ddim yn cael gwaith, 'dach chi ddim yn cael profiad," meddai.
"Mae o'n vicious cycle a dwi'n teimlo wan bo' fi mewn sefyllfa positif, ma hi'n industry anodd iawn ac eitha brutal ar adegau ond dwi'n teimlo fod ennill y gystadleuaeth am roi fi mewn lle da i gael gwaith yn y dyfodol."
Mae Steffan hefyd yn ddiolchgar iawn i'w deulu a'i ffrindiau am yr holl gefnogaeth.
"Dwi’n hynod, hynod o ddiolchgar i fy ffrindiau a fy nheulu am y gefnogaeth, am y rhai sydd wedi rhoi pethau i fyny, ‘di sacrificio petha’ hefyd, dwi’n ddiolchgar i chithau hefyd, i bob un ohonoch chi," meddai.
"O’dd o’n deimlad o ryddhad bron pan glywis i ‘mod i ’di ennill, teimlo fel bod yr holl waith caled sydd wedi mynd tu ‘nôl i’r llen wedi bod werth o."
