'Angen gwaith ychwanegol': Pryder am gynllun heddwch yr Unol Daleithiau ar gyfer Wcráin

Starmer a Macron yn y G20

Mae Syr Keir Starmer ac arweinwyr rhyngwladol wedi codi pryderon am gynllun heddwch yr Unol Daleithiau ar gyfer Wcráin, gan ddweud y bydd y drafft cychwynnol "angen gwaith ychwanegol".

Mewn datganiad ar y cyd yn dilyn eu cyfarfod yn uwchgynhadledd G20 Johannesburg, pwysleisiodd yr arweinwyr "na ddylid newid ffiniau trwy rym".

Yn ôl adroddiadau, roedd yr Unol Daleithiau wedi rhoi pwysau ar Wcráin i dderbyn y cytundeb a gafodd ei lunio yn gyfrinachol ganddi gyda Rwsia.

Byddai’r cytundeb yma yn ei gwneud yn ofynnol i Wcráin ildio tiriogaeth, lleihau maint ei byddin a rhoi’r gorau i’w llwybr i aelodaeth gyda NATO.

Dywedodd Prif Weinidog y DU a 12 arweinydd rhyngwladol arall: "Rydym yn croesawu ymdrechion parhaus yr Unol Daleithiau i ddod â heddwch i Wcráin.

"Mae drafft cychwynnol y cynllun 28 pwynt yn cynnwys elfennau pwysig a fydd yn hanfodol ar gyfer heddwch cyfiawn a pharhaol.

"Felly, rydym yn credu fod y drafft yn sail y bydd angen gwaith ychwanegol arni. Rydym yn barod i ymgysylltu er mwyn sicrhau bod heddwch yn y dyfodol yn gynaliadwy. Rydym yn glir ar yr egwyddor na ddylid newid ffiniau trwy rym. 

"Rydym hefyd yn pryderu am y cyfyngiadau arfaethedig ar luoedd arfog Wcráin, a fyddai’n gadael Wcráin yn agored i ymosodiadau yn y dyfodol.

"Rydym yn ailadrodd y byddai angen caniatâd aelodau’r Undeb Ewropeaidd a NATO ar gyfer gweithredu elfennau sy’n ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd ac sy’n ymwneud â NATO.

"Rydym yn manteisio ar y cyfle yma i danlinellu cryfder ein cefnogaeth barhaus i Wcráin. Byddwn yn parhau i gydlynu’n agos ag Wcráin a’r Unol Daleithiau dros y dyddiau nesaf."

'Un o adegau anoddaf ein hanes'

Ynghyd â'r DU, cafodd y datganiad ei gyhoeddi gan Ffrainc, yr Almaen, Japan, Canada, yr Eidal, Norwy, yr Iseldiroedd, Sbaen, y Ffindir, Iwerddon, Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth Prif Weinidog y DU gynnal sgyrsiau 25 munud gydag Emmanuel Macron o Ffrainc a Friedrich Merz o'r Almaen, cyn i'r cyfarfod gael ei ehangu i gynnwys dwsin o arweinwyr y G7 a'r G20 gan gynnwys o Japan, Canada, yr Eidal, Norwy a'r Undeb Ewropeaidd.

Y gred yw bod y cynllun 28 pwynt wedi'i drafod gan lysgennad arbennig arlywydd yr Unol Daleithiau, Steve Witkoff, a chynrychiolydd Rwsia, Kirill Dmitriev, gydag Wcráin a chynghreiriaid Ewropeaidd wedi'u gadael allan o'r broses.

Mae disgwyl i swyddogion o'r Unol Daleithiau ac Wcráin gynnal sgyrsiau yng Ngenefa ddydd Sul, gyda Mr Witkoff ac ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau, Marco Rubio, yn bresennol ar ran yr Unol Daleithiau.

Bydd cynghorwyr diogelwch cenedlaethol o'r DU, Ffrainc a'r Almaen yno hefyd.

Dywedodd Donald Trump wrth Fox News Radio ddydd Gwener ei fod eisiau ymateb i'r cynllun heddwch gan Wcráin erbyn dydd Iau.

Roedd wedi dweud wrth ohebwyr ddydd Gwener y bydd yn rhaid i Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, ei gymeradwyo.

Fe wnaeth Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, groesawu cynnig yr Unol Daleithiau ddydd Gwener, gan ddweud y gallai "ffurfio sail setliad heddwch terfynol".

Ond dywedodd nad oedd y cynllun wedi'i drafod gyda'r ochr Rwsiaidd "mewn unrhyw ffordd sylweddol" a'i fod yn tybio bod hyn oherwydd nad oedd yr Unol Daleithiau wedi gallu cael caniatâd Wcráin.

Yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd Mr Zelensky mewn fideo i'w genedl eu bod yn wynebu "un o'r adegau anoddaf" yn eu hanes, gan wynebu dewis rhwng "colli eu hurddas neu'r risg o golli partner allweddol".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.