Ymddygiad gwael ac ymosodol 'yn cael ei normaleiddio' mewn ysgolion

Ysgol Rhydywaun

Mae ymddygiad gwael ac ymosodol mewn ysgolion a cholegau "yn cael ei normaleiddio" yn ôl ymchwil newydd.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn, mae Pwyllgor Trosedd a Diogelwch Senedd Ieuenctid Cymru yn "galw am newidiadau brys" mewn ysgolion, gyda rhai disgyblion a myfyrwyr yn teimlo'n "anniogel" a "heb gefnogaeth".

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad sydd yn cynnwys lleisiau dros 2,000 o bobl ifanc ledled Cymru.

Dywedodd llawer ohonynt eu bod eisiau gweld newidiadau mewn ysgolion, gyda 40% yn adrodd eu bod wedi gweld ymddygiad treisgar neu gamdriniol yn eu hysgol neu goleg.

Ond 19% o'r rhai yn unig oedd yn ystyried hyn yn broblem, gyda'r mwyafrif yn teimlo'n ddiogel lle maen nhw'n cael eu haddysg.

Mae'r adroddiad yn nodi bod ymddygiad gwael bellach yn "arferol" mewn llawer o ysgolion a cholegau, ac yn derbyn mai dyna'r "amgylchiadau maen nhw'n eu goddef".

Mewn arolwg o'r gweithlu a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, fe ddywedodd dros 90% o'r ymatebwyr bod ymddygiad aflonyddgar wedi cynyddu ers y pandemig.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio gyda'r sector" i daclo'r problemau.

“Mae unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth tuag at staff neu ddysgwyr yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol.

"Rydym yn gweithio gyda’r sector addysg i daclo materion ymddygiad mewn ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn fannau diogel i staff a dysgwyr.

"Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar flaenoriaethau a amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Addysg yn dilyn Uwchgynhadledd Ymddygiad.

'Agored i niwed'

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys tystiolaeth bryderus gan ddisgyblion ag anableddau a disgyblion LHDT+, a gasglwyd rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2025.

Ymysg yr ymatebion oedd bod disgyblion ag anableddau yn "llawer mwy tebygol o ystyried bod ymddygiad treisgar neu gamdriniol ac ymddygiad rhywiol anniogel yn broblemau".

Image
Prydiau ysgol.

Roedd hyn hyd at 12% yn uwch na'r sampl cyffredinol, ac roedd disgyblion LHDT+ hefyd yn nodi eu bod yn llai diogel.

Roedd disgyblion traws neu’n rhyweddhylifol yn nodi’n gyson eu bod yn teimlo’n llai diogel a’u bod yn cael eu cynnwys llai, gyda chyfraddau uwch o fwlio ac "ymddygiad aflonyddgar".

Ychwanegodd yr adroddiad bod y disgyblion hyn yn "teimlo'n fwy agored i niwed ac yn aml yn cael eu targedu", gan hefyd nodi diffyg cefnogaeth a dealltwriaeth ddigonol yn eu hysgolion.

'Methaint ysgolion'

Un o'r prif themâu wnaeth godi yn yr adroddiad oedd methiant ysgolion i gydnabod ac ymateb i anghenion disgyblion.

Fe wnaeth ddisgyblion rhannu straeon yn dweud eu bod yn cael eu  bwlio am eu gwahaniaethau, boed yn gysylltiedig ag anabledd, ethnigrwydd, neu gyfeiriadedd rhywiol (sexual orientation).

Rhybudd y pwyllgor yw y byddai'r disgyblion yma yn "parhau i wynebu mwy o risgiau a rhwystrau" i'w haddysg heb gefnogaeth sydd "wedi'i theilwra" ac "ymrwymiad gwirioneddol i gynhwysiant".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "addysg cyd-berthynas a rhywioldeb yn ein cwricwlwm yn dysgu pobl ifanc i gydnabod a diogelu eu hunain rhag ymddygiadau niweidiol, ar-lein ac all-lein, gan gynnwys gwahaniaethu, trais a chamdriniaeth".

Mae'r Senedd Ieuenctid yn galw ar arweinwyr ysgolion i "wrando ar ddisgyblion" a'u "cynnwys yn fwy ystyrlon mewn penderfyniadau sy'n llunio eu hamgylchedd addysgol".

30% o ymatebwyr yr arolwg a'r grwpiau ffocws yn unig wnaeth ddweud eu bod wedi cyfrannu at benderfyniadau neu lunio polisïau ynghylch diogelwch yn eu hysgolion.

Pwysleisiodd llawer o'r bobl ifanc hyn y byddant yn ymwneud yn fwy â’r gwaith o lunio polisïau, gwersi a diwylliant pe bai'r ysgol yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth ac yn gwella ymddygiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.