Lansio ymchwiliad i farwolaeth carcharor yng Ngharchar Abertawe

Carchar Abertawe

Bydd ymchwiliad yn cael ei lansio i farwolaeth carcharor yng Ngharchar Abertawe.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod Lee Nation wedi marw yn y carchar fore Sadwrn. 

Nid yw achos marwolaeth y dyn 36 oed yn hysbys eto. 

Dywedodd y Gwasanaeth Carchardai y bydd ymchwiliad i amgylchiadau'r farwolaeth yn cael ei gynnal gan yr Ombwsmon Carchardai a Phrawf.

"Bu farw'r carcharor o Garchar Abertawe, Lee Nation, ar 22 Tachwedd," meddai llefarydd mewn datganiad.

"Fel gyda phob marwolaeth yn y ddalfa, bydd yr Ombwsmon Carchardai a Phrawf yn ymchwilio."

 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.