Cau ffordd yn Abertawe oherwydd twll sydd wedi ymddangos

Ffordd Bryn-y-môr

Mae ffordd wedi ei chau yn Abertawe oherwydd twll sydd wedi ymddangos yn ei chanol.

Dywedodd Cyngor Dinas Abertawe fod y twll wedi ymddangos ger cyffordd Ffordd Bryn-y-Môr a Stryd Westbury.

Mae Ffordd Bryn-y-Môr wedi ei chau rhwng Ffordd Walter a Ffordd y Brenin Edward.

Ychwanegodd y cyngor fe fydd y ffordd ar gau dros y dyddiau nesaf tra bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal ac maen nhw wedi gofyn i yrwyr osgoi’r ardal a defnyddio llwybrau eraill.

"Nid yw'r ffyrdd cyfagos yn cael eu heffeithio a bydd trigolion pen gogleddol ffordd Bryn-y-Môr yn dal i allu cyrraedd eu heiddo ar droed fel arfer," meddai'r cyngor.

"Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi pan fydd gennym ragor o wybodaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.