Cymru'n colli ond yn ennill clod yn erbyn Seland Newydd
Fe gollodd Cymru unwaith eto yn erbyn Seland Newydd o 26-52 mewn gêm gyffrous yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Roedd y prif hyfforddwr Steve Tandy wedi gwneud pedwar newid i'r tîm a enillodd yn erbyn Japan wythnos yn ôl, gyda Joe Hawkins, Harri Deaves, Taine Plumtree a Tom Rogers yn cael eu henwi yn y XV cychwynnol.
Fe wnaeth y Crysau Duon sawl newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Lloegr, gyda Scott Barrett a Simon Parker yr unig ddau chwaraewr i gadw eu lle yn yr 15 sy'n cychwyn.
Fe ganwyd Hen Wlad fy Nhadau yn ddigyfeiliant cyn y gêm i nodi 120 mlynedd o ganu'r anthem cyn gêm ryngwladol am y tro cyntaf yn 1905 a hynny yn erbyn Seland Newydd pan fu Cymru'n fuddugol o 3-0.
Roedd Hollie Davidson yn gwneud hanes hefyd fel y fenyw gyntaf i ddyfarnu gêm ryngwladol gan y Crysau Duon.
Ond yr un hanes oedd hi yn anffodus i Gymru pan groesodd asgellwr Seland Newydd Caleb Clarke am gais ar ôl pedair munud o ymosodiad cynta'r ymwelwyr. Fe drosodd y maswr Damian McKenzie am fantais cynnar. Cymru 0-7 Seland Newydd.
Er mawr syndod i'r cefnogwyr, fe darodd Cymru nôl yn fuan wedyn. Fe wnaeth yr asgellwr de Louis Rees-Zammit adennill y bêl o gic uchel y mewnwr Tomos Williams. Gyda'r blaenwyr yn ailgylchu, fe symudwyd y bêl tuag at yr ystlys lle groesodd yr asgellwr chwith Tom Rogers am gais i godi ysbryd y dorf. Fe drosodd y maswr Dan Edwards yn gelfydd i unioni'r sgôr ar ôl naw munud. Cymru 7-7 Seland Newydd.
Fe aeth Seland Newydd yn ôl ar y blaen gyda chic gosb McKenzie o flaen y pyst ar ôl 12 munud. Cymru 7-10 Seland Newydd.
Roedd Cymru'n chwarae'n gystadleuol iawn yn yr 20 munud agoriadol ac fe ddaeth cyfle arall wrth i'r blaenwyr ddynesu at llinell gais Seland Newydd ond fe ildiwyd cic gosb i alluogi'r ymwelwyr i glirio.
Fe gododd Seland Newydd gyflymdra eu chwarae wedi hynny gyda Chymru'n cael eu cosbi sawl gwaith yn ardal y dacl i gadw'r pwysau yn hanner eu hunain.
Fe aethon nhw ymhellach ar y blaen pan fanteisiodd y cefnwr Ruben Love ar daclo gwan gan flaenwyr Cymru yn ei erbyn i groesi am gais. Fe drosodd McKenzie unwaith eto. Cymru 7-17 Seland Newydd.
Ond nôl daeth Cymru, gan edrych yn dîm hollol wahanol i'r un yn erbyn Japan, gyda Rogers yn croesi am ei ail gais yn yr un modd â'r un cyntaf. Roedd Edwards yn gywir gyda'i anel unwaith eto. Cymru 14-17 Seland Newydd.
Roedd Cymru'n dal i gael eu cosbi yn hanner eu hunain ac fe benderfynodd y Crysau Duon hepgor cic gosb ar y pyst gan gymryd lein yn lle o fewn 22 Cymru.
Ac o hynny doedd fawr yr oedd blaenwyr Cymru'n gallu gwneud i atal y prop pen tynn 23 stôn Tamaiti Williams rhag croesi am gais. McKenzie gyda'r trosiad eto. Cymru 14-24 Seland Newydd ar yr hanner a'r tîm cartref yn dal yn y gêm er mawr syndod.
Gobaith
Fe ddechreuodd Cymru'r ail hanner ar dân gyda Rogers yn croesi am drydydd cais wedi 42 munud gyda'r dorf yn rhoi caniatád i'w hunain ddechrau teimlo fod ryw lygedyn o obaith yno. Edwards yn trosi eto i ddodi Cymru nôl o fewn tri phwynt. Cymru 21-24 Seland Newydd.
Roedd y gêm nawr mwy fel gêm o bêl fasged wrth i Clarke daro nôl am ei ail gais. Fe drosodd McKenzie eto. Fodd bynnag fe gyfeiriodd y swyddog teledu sylw'r dyfarnwr at un o flaenwyr Seland Newydd wnaeth daro'r bêl ymlaen yn gynharach yn y symudiad. Felly fe ddiddymwyd y cais ond dyfarnwyd cic gosb i Seland Newydd yn lle.
Funud yn ddiweddarach, dyfarnwyd bod yr asgellwr Will Jordan wedi croesi o symudiad yn dilyn y lein. Ond unwaith yn rhagor fe wnaeth y swyddog teledu ymyrryd i ddiddymu'r cais oherwydd bod y bêl wedi cael ei dal i fyny cyn cael ei thirio er mawr ryddhad i'r dorf.
Fe barhaodd y pwysau yn 22 Cymru a bu'n rhaid i'r swyddog teledu weithio eto wrth ddyfarnu bod cais y canolwr Reiko Ioane yn ddilys y tro hwn ar ôl iddo ddal cic letraws McKenzie wnaeth drosi. Cymru 21-31 Seland Newydd.
Gwnaed gorchwyl Cymru lawer yn anoddach am yr 20 munud olaf pan dderbyniodd yr eilydd Gareth Thomas gerdyn melyn ar ôl i'r dyfarnwr golli amynedd gyda throseddi cyson blaenwyr Cymru.
Seliwyd y fuddugoliaeth i'r Crysau Duon pan groesodd yr eilydd Sevu Reece ar yr asgell dde am bumed cais ei dîm. McKenzie yn gywir eto. Cymru 21-38 Seland Newydd.
Mae'r Crysau Duon yn feistri corn ar fanteisio ar amgylchiadau fel hyn ac roedd chweched cais iddyn nhw yn anarfod pan dderbyniodd wythwr Cymru Taine Plumtree gerdyn melyn am dacl beryglus. Gyda Chymru lawr i 13 dyn fe groesodd Reece am ei ail gais. McKenzie yn trosi eto. Cymru 21-45 Seland Newydd.
Fe ddaliodd Cymru ati er bod y gêm allan o'u gafael ac fe groesodd Rees-Zammit yn gelfydd yn y gornel dde am gais gyda phedair munud yn weddill. Cymru 26-45 Seland Newydd.
Roedd yr ymdrech yn ormod i Gymru ac fe groesodd Clarke am ei drydydd cais ddwy funud yn ddiweddarach. McKenzie yn gywir eto. Cymru 26-52 Seland Newydd.
Parhau felly mae record Cymru o beidio a churo'r Crysau Duon ers 1953 ond fe fydd yna chwistrelliad o hyder ymhlith y garfan yn dilyn perfformiad calonogol yn eu herbyn. Fe ymdrechodd Cymru'n lew am tua 60 munud cyn i ymosodiadau di-ri'r gwrthwynebwyr fynd yn drech na nhw.
Y sgôr terfynol: Cymru 26-52 Seland Newydd.
Llun: Asiantaeth Huw Evans