Cyhuddo dau yn dilyn lladrad o Amgueddfa Sain Ffagan
Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o ddwyn yn dilyn lladrad o Amgueddfa Sain Ffagan ger Caerdydd.
Bydd Gavin Burnett, 43, a Darren Burnett, 50, y ddau o Northampton, yn ymddangos yn Llys Ynadon Northampton ddydd Mercher wedi'u cyhuddo o fwrgleriaeth.
Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am yr eitemau, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, a gafodd eu dwyn o arddangosfa yn y prif adeilad tua 00:30 fore dydd Llun.
Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Bob Chambers, o Heddlu De Cymru: “Hoffen ni ddiolch unwaith eto i Heddlu Sir Northampton am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad, i'r amgueddfa am ei chefnogaeth, ac i aelodau'r cyhoedd a ymatebodd i'n hapêl am wybodaeth.”
'Trysorau mwyaf'
Wrth ymateb i arestio'r dynion ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: “Rydym yn falch o glywed y datblygiad arwyddocaol hwn yn yr ymchwiliad.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i Heddlu De Cymru am eu cyflymder wrth ymateb i'r digwyddiad hwn a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw ar eu hymholiadau parhaus.
"Unwaith eto, hoffem ddiolch i'n staff, y gymuned leol a'r cyhoedd ehangach am eu cefnogaeth wrth i ni ymateb i'r digwyddiad hwn.”
Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson ddydd Llun bod "rhai o'n trysorau mwyaf" ymysg yr eitemau oedd wedi eu dwyn.
Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo mor drist. Doedd yr eitemau yna ddim yn perthyn i Amgueddfa Cymru, maen nhw'n perthyn i bobl Cymru. Maen nhw wedi cael eu dwyn oddi wrth deulu Cymru.
"Fe wnaeth newyddiadurwr ofyn i mi beth oedd gwerth yr eitemau. Sut fedrwch chi roi pris ar rywbeth a gafodd ei grefftio dros 2000 o flynyddoedd yn ôl ac na allai fyth gael ei ddisodli?"