Cymro wedi ei atal gan luoedd Israel wrth hwylio i Gaza
Mae Cymro wedi ei atal gan luoedd Israel wrth hwylio i Gaza gyda'r nod o ddosbarthu nwyddau dyngarol yno.
Roedd Leigh Evans yn teithio ar ail grŵp o gychod y Global Sumud Flotilla oedd yn ceisio darparu cymorth dyngarol yn Gaza.
Mewn fideo oedd wedi ei recordio o flaen llaw dywedodd y nyrs o Bengelli yn Abertawe ei fod wedi cael ei "herwgipio" gan Lynges Israel.
"Os ydych chi'n gweld y fideo yma rydym wedi cael ein hatal yn y môr a dwi wedi cael fy herwgipio gan luoedd Israel, sydd yn cymryd rhan yn hil-laddiad y bobl Palesteinaidd," meddai ar Instagram.
Dywedodd Gweinyddiaeth Dramor Israel eu bod wedi atal sawl cwch oedd yn ceisio cyrraedd Gaza a bod teithwyr yn cael eu trosglwyddo i borthladd yn Israel er mwyn cael eu halltudio.
Disgrifiodd y weinyddiaeth y cychod fel "ymgais ofer arall i dorri’r blocâd llyngesol cyfreithiol a mynd i dir rhyfela".
Roedd Leigh ar un o naw gwch oedd yn agosáu at Lain Gaza fore Mercher.
Tra ei fod y teithio ar y cwch i Gaza dywedodd Leigh Evans wrth Newyddion S4C bod safiad yr ymgyrchwyr ar y cychod yn "gadarn."
"Mae'r ymosodiadau, bygythiadau, trais [gan Israel], dyw hynny ddim mynd i ein hatal o gwbl," meddai.
"Os unrhyw beth, fe fydd yn rhoi mwy o gryfder i ni.
"Mae dal 2 miliwn o bobl yn Gaza yn cael eu llwgu gan Israel, ac mae 3.2 miliwn o bobl yn y Llain Orllewinol, hanner ohonynt yn blant.
"Mae ein hymrwymiad a’n safiad yn gadarn, po waeth y bygythiadau maen nhw’n eu gwneud. Rydym wedi paratoi ar eu cyfer."
'Anghyfreithlon'
Dyma'r ail grŵp o gychod i geisio hwylio i Gaza er mwyn darparu cymorth yno.
Ar 2 Hydref fe gafodd gychod y Global Sumud Flotilla oedd yn cynnwys yr ymgyrchydd Greta Thunberg eu hatal gan Lynges Israel.
Dywedodd y weinyddiaeth fod y cychod “wedi cael eu hatal yn ddiogel ac mae eu teithwyr yn cael eu trosglwyddo i borthladd yn Israel”.
Fe ddywedodd y Global Sumud Flotilla fod y cychod wedi eu cipio “yn anghyfreithlon” a lluoedd Israel wedi defnyddio canonau dŵr.
Cafodd teithwyr eu cadw yn y ddalfa cyn cael eu rhyddhau a'i alltudio.
Honnodd rhai o’r ymgyrchwyr ar fwrdd y cychod eu bod wedi dioddef cam-drin corfforol a geiriol creulon gan luoedd Israel yn y ddalfa.