Ymosodiad ar ddynes oedd yn mynd â’i chi am dro
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl ymosodiad ar ddynes oedd yn mynd â’i chi am dro ym Mae Colwyn ddydd Llun.
Dywedodd yr heddlu fod yr ymosodiad wedi digwydd yn ardal Parc Eirias, ar gyffordd Ffordd Abergele a Ffordd Groes, rhwng 19:00 a 20:00.
Yn ôl yr heddlu roedd dyn yn ei 40au wedi ymosod arni, gan adael y fenyw heb ei hanafu ond wedi’i “hysgwyd”.
Cafodd y dyn wnaeth ymosod arni ei ddisgrifio fel dyn gwyn yn ei 40au cynnar, tua phum troedfedd 11 modfedd o daldra, gyda chorff llydan a gwallt byr.
Roedd yn gwisgo cot dywyll gyda hwd, dilledyn tywyll ar ran gwaelod ei gorff ac esgidiau hyfforddi lliw golau, ac efallai ei fod yn ysmygu ar y pryd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Simon Kneale: “Hoffwn sicrhau trigolion bod rhagor o heddlu yn cadw golwg ar yr ardal o ganlyniad i’r digwyddiad a bod pobl yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn adrodd am unrhyw ymddygiad amheus yn y cyffiniau.
“Rwy’n apelio at unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu unrhyw un a oedd yn ardal Parc Eirias rhwng 7pm ac 8pm ddoe ac a welodd y sawl a ddrwgdybir, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.
“Rydyn ni’n annog unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd Ffordd Abergele neu Ffordd Groes rhwng yr amseroedd hyn, ac a allai fod â lluniau camera dangosfwrdd o’r digwyddiad neu’r dyn sydd dan amheuaeth i gysylltu hefyd.”
Mae'r llu yn dweud gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101, neu drwy’r wefan gan ddefnyddio’r ddolen isod, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod C015799.