Kneecap: Apêl yn erbyn y penderfyniad i ollwng achos terfysgaeth

Kneecap

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi y bydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad i ollwng yr achos yn erbyn y rapiwr o'r grŵp Gwyddelig, Kneecap, Liam Og O hAnnaidh.

Daeth yr achos i ben mewn gwrandawiad wythnos a hanner yn ôl, oherwydd nam technegol yn y modd y cafodd yr achos ei ddwyn yn ei erbyn. 

Mewn datganiad byr, dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron y byddai'n apelio yn erbyn y penderfyniad oherwydd "ein bod yn credu bod hon yn elfen bwysig o'r gyfraith, sydd angen eglurder yn ei chylch." 

Cafodd Liam Og O hAnnaidh, 27 oed, sy'n perfformio o dan yr enw Mo Chara, ei gyhuddo o ddatgan cefnogaeth i Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd y llynedd.

Daeth y cyhuddiad wedi ymchwiliad gan yr heddlu i gig y band yn yr O2 Forum yng ngogledd Llundain pan afaelodd Mr O hAnnaidh ym maner y mudiad.

Fis Awst, dywedodd tîm cyfreithiol Mr O hAnnaidh yn Llys Ynadon Westminster y dylai’r achos gael ei daflu allan o’r llys ar sail “gwall technegol” yn gysylltiedig â’r modd y cafodd yr achos ei ddwyn yn ei erbyn. 

Yn Llys y Goron Woolwich ar 26 Medi, dywedodd y prif ynad Paul Goldspring ei fod yn cytuno â'r farn honno.

Dywedodd nad oedd y Twrnai Cyffredinol wedi rhoi caniatâd i’r achos gael ei ddwyn yn ei erbyn pan roddodd yr heddlu wybod i Mr O hAnnaidh y byddai’n wynebu cyhuddiad o derfysgaeth ar 21 Mai.

Nid oedd yr achos wedi dechrau yn y modd cywir gan nad oedd caniatâd angenrheidiol gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a'r Twrnai Cyffredinol o fewn y terfyn amser statudol o chwe mis, meddai.

“O ganlyniad, mae’r cyhuddiad yn anghyfreithlon ac yn ddi-rym ac nid oes gan y llys hwn awdurdodaeth i roi’r cyhuddiad ar brawf.”

Mae Kneecap yn perfformio yn nghanolfan Depot, Caerdydd ar 17 Tachwedd. Mae pob tocyn eisoes wedi ei werthu.    

Llun: Aaron Chown/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.