Angen 'camau brys' i fynd i'r afael ag argyfwng gordewdra Cymru
Mae angen "camau brys" i fynd i'r afael ag argyfwng gordewdra Cymru wrth i ffigyrau ddangos bod dros 60% o oedolion dros bwysau.
Dywedodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd bod gordewdra yn un o "heriau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol" ledled y byd.
Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos "arweinyddiaeth gryfach" wrth fynd i'r afael â phroblem gynyddol gordewdra.
Mae bod yn ordew yn gallu arwain at glefydau gan gynnwys diabetes math 2, clefyd cardiofasgwlaidd, gan gynnwys strôc, a rhai canserau.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Peter Fox AS mai lleihau amseroedd aros ar gyfer triniaethau rheoli pwysau yw un o'r datrysiadau mwyaf amlwg i ordewdra.
"Mae nifer yr achosion yn cynyddu yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, gyda lefelau llawer uwch o ordewdra yn y cymunedau mwyaf difreintiedig," meddai.
"Mae'r gost i'r GIG eisoes yn £73 miliwn y flwyddyn, yn ôl adroddiadau blaenorol, a rhagwelir y bydd hyn yn codi i tua £465 miliwn erbyn 2050.
"Ni allwn fforddio aros, mae rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau rheoli pwysau, sicrhau darpariaeth gyson i blant ac oedolion ar draws pob bwrdd iechyd, a mabwysiadu dull ataliol system gyfan sy'n darparu cefnogaeth dosturiol ac urddasol i bobl drwy gydol eu hoes."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein cynllun newydd' Pwysau Iach, Cymru Iach 2025-27' a gyhoeddwyd ym mis Medi yn nodi ein dull o atal a lleihau gordewdra dros y ddwy flynedd nesaf.
“Rydym yn ystyried adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor a byddwn yn ymateb yn ffurfiol maes o law.”
'Amhosib i anwybyddu'
Mae tua 25% o blant yn byw gyda gorbwysau neu ordewdra erbyn iddynt ddechrau'r ysgol.
Clywodd y pwyllgor bod diffyg gwasanaeth i blant sydd yn ordew neu dros bwysau mewn sawl cyngor yng Nghymru.
Dywedodd Dr Kellie Turner, Seicolegydd Traws-Gymru ym maes Rheoli Pwysau wrth y pwyllgor mai dim ond tri neu bedwar bwrdd iechyd yng Nghymru oedd â gwasanaeth plant pwrpasol ar gyfer rheoli pwysau.
Nododd yr adroddiad hefyd bod plant sydd yn byw mewn tlodi'n fwy tebygol o fod dros eu pwysau.
Mae Dirprwy Swyddog Cymru, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn rhybuddio bod angen gweithredu.
"Mae'n amhosibl anwybyddu canfyddiadau'r adroddiad bod plant tlotach yn llawer mwy tebygol o fod yn ordew neu dros bwysau na'u cyfoedion cyfoethocach," meddai Dr Dana Beasley.
"Mae hwn yn anghydraddoldeb iechyd hirhoedlog, ac mae'n amlwg i bediatregwyr na ellir cyflawni cynnydd ar ordewdra plentyndod heb fynd i'r afael hefyd â'n cyfraddau tlodi ac amddifadedd plentyndod sydd allan o reolaeth.
"Rhaid i ganfyddiadau'r Pwyllgor fod yn alwad i weithredu."
'Diffyg ymwybyddiaeth'
Clywodd y pwyllgor gan Lywodraeth Cymru am strategaeth i atal a lleihau gordewdra dan yr enw 'Pwysau iach: Cymru Iach.'
Mae "diffyg arweinyddiaeth ac eglurder" ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth, sydd wedi arwain at ddiffyg ymwybyddiaeth ohoni, meddai'r gwleidyddion.
Dywedodd y pwyllgor bod y strategaeth "yn methu â chyflawni ei huchelgais" gan olygu nad oes unrhyw ddarpariaeth o gwbl i blant a phobl ifanc mewn rhai byrddau iechyd.
O ganlyniad i hyn mae pobl yn troi at lefydd eraill am gymorth i wella eu hiechyd a cholli pwysau.
Un sydd wedi gwneud hynny yw David Quinn, sy’n aelod o Dîm Pêl-droed MAN v FAT Casnewydd ers chwe blynedd, a bellach yn hyfforddi tîm ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
"Ers ymuno â'r tîm mae fy mywyd wedi newid yn llwyr," meddai.
"Rydw i wedi mynd o fod bron byth yn gadael y tŷ a phwyso dros 200kg, i golli bron i 35% o bwysau fy nghorff, gan golli bron i 70kg o bwysau nawr.
"Nid yn unig hynny, ers dod yn hyfforddwr, rydw i nawr yn gallu helpu dynion eraill i ddilyn yr un daith.
"Mae modd gwneud llawer o waith i gyfeirio pobl tuag at wasanaethau. Mae mentrau allan yna, ond mae angen iddynt hyrwyddo arferion da a gwneud colli pwysau yn gynaliadwy.
"Mae'r gymuned yn bwysig hefyd, ac mae'n helpu cymaint gydag iechyd meddwl sy'n mynd law yn llaw."
Ynghyd â diffyg gwasanaethau, mae oedi hir yn golygu bod pobl yn "colli cymorth hanfodol pan fydd ei angen arnynt fwyaf," meddai'r pwyllgor.