Bethesda: Cau'r Stryd Fawr ar ôl tân mewn adeilad
Bethesda: Cau'r Stryd Fawr ar ôl tân mewn adeilad
Mae'r Stryd Fawr ym Methesda yng Ngwynedd wedi cau wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i dân mewn adeilad.
Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu gweld mewn adeilad tu ôl i hen fanc HSBC am tua 13:00 ddydd Mawrth.
Dywedodd John Bullock, perchennog Caffi Seren sydd wedi ei leoli ar y Stryd Fawr nad oedd yn gwybod bod tân mewn un o'r adeiladau, hyd nes i ddiffoddwyr ddod draw ato.
"Dwi'm yn meddwl bod neb 'di brifo," meddai wrth Newyddion S4C.
"Da ni dal yma, mae'r stryd 'di cau. Does na'm lot o neb o gwmpas rŵan, just loris a ceir di stopio a backio i fyny.
"Does neb methu pasio trwodd. Mae o'n gridlock bob ffordd.”
"Doeddan ni'm yn gwybod bod na tân nes i un o'r hogia tân ddod yma. Di nhw ddim yn panicio.
"Ma' just isho neud yn siŵr bod pawb yn iawn rŵan."
Mae'r heddlu yn annog pobl i osgoi'r ardal wrth i'r Gwasanaeth Tân ddelio â'r digwyddiad.
Dyw hi ddim yn glir eto beth achosodd y tân.