Arestio dau ar amheuaeth o ddwyn gemwaith aur o Amgueddfa Sain Ffagan
Mae dau ddyn o Loegr wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddwyn gemwaith aur o Amgueddfa Sain Ffagan, ger Caerdydd, meddai’r heddlu.
Cafodd y dynion 43 a 50 oed o dref Northampton eu harestio brynhawn ddydd Mawrth ac maent yn y ddalfa yn Sir Northampton.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n parhau i chwilio am yr eitemau a gafodd eu dwyn tua 00.30 fore ddydd Llun.
Cafodd sawl eitem, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, eu dwyn o arddangosfa yn y prif adeilad.
Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Bob Chambers, o Heddlu De Cymru: “Mae'r arestiadau yn ddatblygiad arwyddocaol iawn yn yr ymchwiliad.
“Hoffen ni ddiolch i'r amgueddfa am eu cefnogaeth barhaus, Heddlu Sir Northampton, ac aelodau'r cyhoedd a ymatebodd i'n hapêl am wybodaeth.”
Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: “Rydym yn falch o glywed y datblygiad arwyddocaol hwn yn yr ymchwiliad.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i Heddlu De Cymru am eu cyflymder wrth ymateb i'r digwyddiad hwn a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw ar eu hymholiadau parhaus.
"Unwaith eto, hoffem ddiolch i'n staff, y gymuned leol a'r cyhoedd ehangach am eu cefnogaeth wrth i ni ymateb i'r digwyddiad hwn.”
Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson ddydd Llun bod "rhai o'n trysorau mwyaf" ymysg yr eitemau oedd wedi eu dwyn.
Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo mor drist. Doedd yr eitemau yna ddim yn perthyn i Amgueddfa Cymru, maen nhw'n perthyn i bobl Cymru. Maen nhw wedi cael eu dwyn oddi wrth deulu Cymru.
"Fe wnaeth newyddiadurwr ofyn i mi beth oedd gwerth yr eitemau. Sut fedrwch chi roi pris ar rywbeth a gafodd ei grefftio dros 2000 o flynyddoedd yn ôl ac na allai fyth gael ei ddisodli?"