Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon
Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon yng Ngwynedd ddydd Llun, meddai’r heddlu.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw wedi derbyn galwad gan y gwasanaeth ambiwlans yn fuan wedi 20.20.
Roedd y gwrthdrawiad un car wedi digwydd rhwng Bontnewydd a Rhostryfan.
Fe gafodd y gyrrwr ei gludo i’r ysbyty ond bu farw yno, medden nhw.
Mae’r crwner wedi cael gwybod.
Llun: Roedd y ffordd ar gau am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad.