Lladrad Sain Ffagan: Beth oedd yn eu casgliad o’r Oes Efydd?

Lanwla

Mae rhai o "drysorau mwyaf" Cymru wedi eu dwyn o Amgueddfa Werin Sain Ffagan, yn ôl Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru.

Dyw’r union eitemau a gafodd eu dwyn ddim wedi eu cyhoeddi eto, ond mae’n hysbys eu bod nhw’n cynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd ac roeddent wedi'u harddangos yn Oriel Cymru.

Dywedodd yr heddlu bod “sawl eitem” wedi eu dwyn o “gas arddangos”.

Mae gwefan Sain Ffagan yn cynnwys rhestr o’r creiriau aur o’r Oes Efydd a’r man lle’r oedden nhw’n cael eu cadw. 

Mae’r creiriau o’r Oes Efydd oedd yn cael eu cadw yn Oriel Cymru, yn ôl eu gwefan, yn cynnwys:

Lwnwla Llanllyfni (uchod) a gafodd ei ddarganfod mewn cors fferm yn 1869, oedd yn dyddio o gyfnod cyn y Rhufeiniaid, tua 2000 Cyn Crist. 

Dyma’r lwnwla trymaf sydd wedi ei ddarganfod ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Roedd fel arfer yn cael ei gadw yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain.

Image
Disg aur
Disg aur Banc Tynddol 

Disg aur Banc Tynddol a gafodd ei ddarganfod yn 2002, ger mwynglawdd copr yr Oes Efydd ym Mryn Copa, Cwmystwyth. 

Gan ddyddio'n ôl i tua 2450-2150 CC, mae'n un o'r gwrthrychau aur cynharaf yr ydym yn gwybod amdanynt o Gymru.

Darnau o gasgliad Bwrton, ger Wrecsam o'r Oes Efydd Ganol (1300-1150 Cyn Crist) yn cynnwys deuddeg eitem o emwaith aur, gan gynnwys breichled, a gafodd eu darganfod ger Afon Alun yn 2004 a 2007.

Darnau o gasgliad Llanwrthwl ym Mhowys o’r Oes Efydd Ganol (1300-1150 Cyn Crist) sy’n cynnwys torch aur.

Eitemau o gasgliad Heyope ym Mhowys o’r Oes Efydd Ganol (1400-1275 Cyn Crist) gan gynnwys torch rhuban.

Eitemau o gasgliad Capel Isaf, Manordeilo o’r Oes Efydd Ganol (1500-1275 Cyn Crist) gan gynnwys breichled aur.

Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa, Cymru Jane Richardson ei bod wedi cyrraedd y safle ac wedi gwylio'r deunydd CCTV "gan arswydo". 

"Dwi'n teimlo mor drist," meddai. "Doedd yr eitemau yna ddim yn perthyn i Amgueddfa Cymru, maen nhw'n perthyn i bobl Cymru. Maen nhw wedi cael eu dwyn oddi wrth deulu Cymru.

"Fe wnaeth newyddiadurwr ofyn i mi beth oedd gwerth yr eitemau. Sut fedrwch chi roi pris ar rywbeth a gafodd ei grefftio dros 2000 o flynyddoedd yn ôl ac na allai fyth gael ei ddisodli?"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.