Pont y Borth 'i ail-agor yn rhannol i rai cerbydau yn y dyddiau nesaf'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Pont y Borth yn ail-agor yn rhannol i rai cerbydau yn y dyddiau nesaf.
Cafodd y bont, sy'n cysylltu Ynys Môn gyda'r tir mawr, ei chau ddydd Sadwrn er mwyn cynnal gwaith atgyweirio brys.
Mewn diweddariad ddydd Mawrth, cyhoeddodd y Llywodraeth eu bod yn cydweithio gyda UK Highways A55 DBFO Ltd i ailagor Bont y Borth yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr yn y dyddiau nesaf.
Mae disgwyl i hyn ddigwydd rhwng 07:00-19:00 a bydd y bont ar gau yn llwyr dros nos.
Yn ystod yr oriau gweithredu, dim ond cerbydau hyd at dair tunnell fydd yn gallu croesi, a bydd mesurau rheoli traffig ac un llif traffig oddi ar yr ynys ar waith yn y bore ac i mewn i’r ynys ar waith yn y prynhawn.
Ychwanegodd y llywodraeth fod disgwyl i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau wrth groesi'r bont a defnyddio'r droedffordd i gerddwyr.
Fe fydd trefniadau mynediad brys ar gyfer ambiwlansys sydd ddim yn gallu croesi Pont Britannia ar waith, yn ôl y llywodraeth.
Mae trafodaethau'n parhau gyda UK Highways A55 DBFO Ltd a Heddlu Gogledd Cymru a bydd yr union amserlenni a'r camau gorfodi yn cael eu cadarnhau cyn gynted ag y mae cynllun yn cael ei gytuno arno yn llawn.
Fe fydd gwaith yn digwydd ar yr un pryd i wneud yr "atgyweiriadau angenrheidiol i'r bolltau" yn ôl y llywodraeth.