Sain Ffagan: Rhai o'n 'trysorau mwyaf' wedi eu dwyn 'mewn pedwar munud'
Mae Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru wedi dweud bod 'rhai o'n trysorau mwyaf' wedi eu dwyn o Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd, a hynny 'mewn pedwar munud' yn unig.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio i ladrad wedi i swyddogion dderbyn adroddiad am fyrgleriaeth yn yr amgueddfa am tua 00:30 fore Llun.
Ychwanegodd swydogion fod gemwaith aur o'r Oes Efydd wedi ei ddwyn o'r amgueddfa.
Fe ddywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru Jane Richardson mewn neges ar blatfform Linkedin nos Lun: "Roeddwn i fyny yn fuan i ddal trên i Gaerdydd ac roedd yna eisoes neges yn barod i mi ar y ffôn.
"Roedd yna rhywun wedi torri i fewn yn Sain Ffagan, roedd y lladron i fewn ac allan o fewn 4 munud. Yn yr amser yna, roedden nhw wedi cymryd rhai o'n trysorau mwyaf."
'Arswydo'
Aeth Ms Richardson yn ei blaen i ddweud ei bod wedi cyrraedd y safle ac wedi gwylio'r deunydd CCTV "gan arswydo".
"Yr hyn a ddilynodd oedd diwrnod o ymchwiliadau'r heddlu, cyfarfodydd cyfathrebu, cyfweliadau gyda'r wasg, galwadau i Gynghorwyr Diogelwch Cenedlaethol, cyllidwyr, yswirwyr a llawer, llawer mwy," meddai.
Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo mor drist. Doedd yr eitemau yna ddim yn perthyn i Amgueddfa Cymru, maen nhw'n perthyn i bobl Cymru. Maen nhw wedi cael eu dwyn oddi wrth deulu Cymru.
"Fe wnaeth newyddiadurwr ofyn i mi beth oedd gwerth yr eitemau. Sut fedrwch chi roi pris ar rywbeth a gafodd ei grefftio dros 2000 o flynyddoedd yn ôl ac na allai fyth gael ei ddisodli?"
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru ddydd Llun: "Fel amgueddfa, rydym yn siomedig i glywed am yr ymosodiad wedi'i dargedu'n benodol at Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghaerdydd.
"Mae'r eitemau y tybir iddynt gael eu dwyn yn enghreifftiau o emwaith aur o'r Oes Efydd ac roeddent wedi'u harddangos yn Oriel Cymru."