Starmer yn annog myfyrwyr i beidio protestio ddwy flynedd ers ymosodiad Hamas
Mae Syr Keir Starmer wedi annog myfyrwyr i beidio cymryd rhan mewn protestiadau o blaid y Palasteiniad ddwy flynedd ers yr ymosodiad gwaedlyd gan Hamas ar Israel.
Cafodd tua 1,200 o Iddewon eu lladd a 251 eu cymryd yn wystlon yn ystod yr ymosodiad yn Israel gan Hamas ar 7 Hydref 2023.
Mae'r rhan fwyaf o'r gwystlon wedi cael eu rhyddhau o dan gytundebau cadoediad blaenorol ond mae 48 yn dal i gael eu dal yn Gaza - gyda 20 yn fyw yn ôl Israel.
Wrth nodi'r dwy flynedd ers yr ymosodiad, dywedodd Syr Keir Starmer y dylai bob plentyn allu cydfyw ochr yn ochr gyda'u cymdogion Palesteinaidd.
Mewn erthygl yn The Times dywedodd Mr Starmer bod y protestiadau sydd i fod i ddigwydd ddydd Mawrth gan fyfyrwyr yn rhai "gwrth-Brydeinig" gan honni eu bod yn dangos diffyg parch tuag at eraill.
Ychwanegodd bod y protestiadau wedi eu defnyddio gan rhai fel "esgus ffiaidd i ymosod ar Iddewon Prydeinig."
Manceinion
Daw'r penblwydd llai nag wythnos wedi'r ymosodiad ar synagog ym Manceinion lle y cafodd dau o ddynion eu lladd.
Fe gafodd Adrian Daulby, 53, a Melvin Cravitz, 66, eu lladd yn ystod yr ymosodiad a ddigwyddodd ar ddiwrnod Yom Kippur sef y diwrnod mwyaf sanctaidd yn y calendr Iddewig.
"Mae hyn yn staen ar bwy ydyn ni ac fe fydd y wlad yma wastad yn sefyll yn gryf ac yn unedig yn erbyn y rhai sydd yn dymuno niwed a chasineb ar y cymunedau Iddewig," meddai Keir Starmer.
Dywedodd fod blaenoriaethau Prydain yn parhau'r un peth, sef i gael heddwch yn y Dwyrain Canol ac i ddod a'r ymladd i ben rhwng Israel ac Hamas.
Wedi'r ymosodiad ar 7 Hydref yn 2023 fe ymatebodd Israel trwy ddechrau rhyfel yn Gaza.
Erbyn hyn mae 67,139 o bobl wedi eu lladd yno gan luoedd Israel yn ôl y weinyddiaeth iechyd sydd yn cael ei rhedeg gan Hamas.
Mae trafodaethau rhwng Hamas ac Israel yn parhau ynglŷn â'r posibilrwydd o gael cadoediad yn Gaza.
Yn ôl Donald Trump, sydd wedi llunio cynllun heddwch ar gyfer y ddwy ochr mae yna "siawns dda dod i gytundeb ac fe fydd yn gytundeb fydd yn para."
Mae'r cynllun yn nodi bydd y rhyfel yn dod i ben, y wystlon yn cael eu rhyddhau ac y bydd cymorth dyngarol yn cyrraedd Gaza.
Tra bod Hamas wedi cytuno i rai agweddau o'r cynllun dydyn nhw ddim wedi ymateb i bwyntiau eraill gan gynnwys diarfogi eu hunain a pheidio chwarae rhan mewn unrhyw lywodraethiant o Gaza yn y dyfodol.
Llun: James Manning/PA Wire