Rhybudd am dagfeydd trwm ar Bont Britannia ar ôl cau Pont y Borth

A55

Mae Traffig Cymru wedi rhybuddio am dagfeydd trwm ar Bont Britannia rhwng Ynys Môn a'r tir mawr drwy gydol dydd Mawrth.

Mae lluniau camerâu cylch cyfyng Traffig Cymru fore dydd Mawrth yn dangos tagfeydd ar ochr Môn o Bont Britannia, gyda disgwyl y gallai'r tagfeydd barhau drwy gydol y dydd.

Daw'r rhybudd yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Pont y Borth yn gorfod cau dros y penwythnos.

Cafodd y bont, sy'n cysylltu Ynys Môn gyda'r tir mawr, ei chau ddydd Sadwrn er mwyn cynnal gwaith atgyweirio brys.

Daeth y penderfyniad i gau’r bont ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno terfyn pwysau ddydd Gwener yn dilyn "cyngor brys" gan beirianwyr strwythurol, gan atal cerbydau’n pwyso dros dair tunnell rhag ei chroesi.

Daeth y cyngor wedi i archwiliad ddarganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont. 

Ond daeth cadarnhad ddydd Sadwrn y byddai'r bont yn cau'n gyfan gwbl er mwyn cyflawni'r gwaith, a hynny am gyfnod amhenodol.

Dyma’r ail dro i’r bont gael ei chau’n gyfan gwbl mewn tair blynedd, wedi i’r bont gau am bedwar mis yn 2022 oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Wrth ymateb i'r datblygiad, dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi ei fod yn "annerbyniol ein bod ni yn y sefyllfa hon unwaith eto."

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J. Williams: “Mae trafodaethau rhwng y Cyngor Sir, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol yn parhau yn sgil y penderfyniad i gau’r bont. 

"Mae’r goblygiadau ar gyfer trigolion; trafnidiaeth yn lleol; y sgil effeithiau ar fusnesau Porthaethwy a’r cyffiniau dan ystyriaeth.

“Rydym yn dallt a theimlo'r pryderon a rhwystredigaeth, ac er bod y sefyllfa'n annerbyniol rhaid parhau i roi blaenoriaeth i ddiogelwch. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo, dylanwadu, a sicrhau bod y mater yma’n derbyn sylw brys a haeddiannol er mwyn darganfod gwelliannau a datrysiadau.”

Llun: Traffig Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.