Gwraig o Sir Gâr yn gwadu iddi gynllwynio gyda'i chariad i lofruddio ei gŵr
Mae gwraig 46 oed o Langennech, Sir Gâr wedi gwadu iddi gynllwynio gyda'i chariad cyfrinachol i lofruddio ei gŵr.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Ethel Mills, sy'n defnyddio'r enw Michelle, wedi gwneud hynny er mwyn dechrau bywyd newydd gyda'i chariad.
Ma hi yn sefyll ei phrawf gyda Geraint Berry, 46 oed, a Steven Thomas, 47 oed.
Maen nhw wei eu cyhuddo o gynllwynio i ladd Christopher Mills.
Dioddefodd Mr Mills ymosodiad mewn carafan yr oedd yn ei rhannu gyda'i wraig yng Nghenarth, Sir Gaerfyrddin fis Medi 2024.
Roedd y ddau ymosodwr yn gwisgo mygydau ac roedd ganddyn nhw ynnau llaw ffug, yn ogystal â mygydau nwy, a phleiars mewn bag.
Clywodd y llys honiadau mai Geraint Berry sy'n gyn fôr-filwr oedd un o'r ymosodwyr, a'i fod wedi bod yn cael perthynas gudd gyda Mrs Mills am oddeutu dri mis cyn yr ymosodiad.
Fe briododd Mrs Mills a'i gŵr, a oedd hefyd yn arfer gweithio yn y lluoedd arfog, yn 2018.
Roedd y ddau yn byw gyda'i gilydd ym Maes Ty Gwyn, Llangennech.
Clywodd y llys nad oedd Mr Mills yn ymwybodol o unrhyw broblemau yn eu perthynas a bod ei wraig wedi dechrau gweld Mr Berry ym mis Mehefin 2024.
Ar noson yr ym osodiad, eglurodd yr erlyniad fod Mr Mills a'i wraig yn eistedd yn lolfa'r garafan pan aeth e i ateb cnoc ar y drws.
Roedd dau ddyn gyda mygydau a gynau yno, a chafodd ei daro yn ei wyneb.
Llwyddodd Mr Mills i ffoi.
Dywedodd yr erylyniad fod yr heddlu wedi darganfod Geraint Berry a Steven Thomas yn cuddio ger safle'r garfan yn ddiweddarach.
Clywodd y llys fod un o'r dynion yn cario nodyn hunanladdiad ffug, a oedd i fod wedi ei anfon gan Mr Mills at ei wraig.
Mae Geraint Berry o bentref Clydach, Abertawe, a Steven Thomas, o Flaengwynfi, Cwm Afan wedi cyfaddef iddyn nhw fod ag arf ffug yn eu meddiant, ond yn gwadu iddyn nhw gynllwynio i lofruddio Mr Mills.
Mae Michelle Mills, hefyd yn gwadu cynllwynio i lofruddio, a chyhuddiad pellach o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy ddileu ei negeseuon ffôn a rhoi gwybodaeth ffug i'r heddlu.
Mae'r achos yn parhau.