Gobaith bydd cynllun tocynnau bysiau £1 i blant yn gallu 'lleddfu pwysau'

Anna Pavett a'i merched

Mae mam o Rondda Cynon Taf wedi dweud ei bod yn gobeithio y gallai cynllun newydd am docynnau bws rhatach i blant fod o fudd i’w theulu wrth iddi wynebu heriau gyda chael cludiant ysgol i’w plant. 

Fe ddaw wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ddydd Mawrth bod y nifer uchaf erioed o bobl ifanc wedi manteisio ar gynllun tocynnau bws £1 ers ei lansio ym mis Gorffennaf. 

Mae’r fenter yn galluogi pobl ifanc i deithio gyda thocyn sengl am £1, neu gyda thocyn diwrnod am £3 drwy gofrestru ar gyfer ‘Fy Ngherdyn Teithio’ am ddim.

Mae Anna Pavett yn byw gyda’i dwy ferch ym mhentref Hirwaun yng Nghwm Cynon. Mae Betsie yn 11 oed ac yn yr ysgol gynradd Gymraeg leol, a Bonnie yn ddisgybl 12 oed mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. 

Wrth i’r fam ddechrau paratoi i’w merch ieuengaf ymuno â’i chwaer hŷn yn yr ysgol uwchradd y flwyddyn nesaf, mae’n dweud ei bod yn wynebu heriau ymarferol ac ariannol o ran sicrhau trafnidiaeth i’r ddwy. 

Mae’n obeithiol y gallai cynllun Llywodraeth Cymru leddfu rhai o’i phryderon ond yn dweud bod angen i’w chyngor lleol barhau i weithredu er lles teuluoedd eraill yn yr ardal.  

Image
Bws

'Straen'

Er nad yw'r newidiadau diweddar wedi effeithio ar allu'r teulu i gael cludiant bysiau ysgol Cyngor Rhondda Taf, mae Anna yn dweud y dylai’r cyngor ail-ystyried eu rheolau newydd. 

Mae’r rheolau yn golygu bod yn rhaid i ddisgyblion ysgol uwchradd a cholegau fyw dair milltir neu’n bellach o’u hysgol i dderbyn cludiant am ddim.

Yn y gorffennol, roedd y pellter yn ddwy filltir neu fwy – gydag Anna a’i merched yn byw ychydig o dan ddwy filltir yn unig i ffwrdd.

Mae’r fam wedi gorfod gwneud cais i’w merch hynaf, Bonnie, cael sedd ar y bws ysgol am y ddwy flynedd ddiwethaf gan dalu am ei lle. Ond mae’n pryderu na fyddai’n llwyddo eto'r flwyddyn nesaf. 

“Rydw i wedi bod yn lwcus i gael sedd y ddwy flynedd ddiwethaf i Bonnie, ond y flwyddyn nesaf pan fydd gen i'r ddwy ferch yn yr ysgol bydd y gost yn dyblu a bydd y siawns o gael sedd yn anoddach,” meddai.

Yn ôl Anna, mae gan gynllun Llywodraeth Cymru “ei le” ond mae’n galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i ail-ystyried eu rheolau newydd.

Mae’n dweud bod y newid wedi cael “effaith mawr” yn lleol gan roi “straen” ar drafnidiaeth gyhoeddus a chreu tagfeydd.

“A hefyd efallai y bydd teuluoedd sydd â mwy nag un plentyn yn dal i gael trafferth yn talu'r ffi o £1 sy'n golygu bod disgwyl i blant ifanc gerdded 3 milltir i'r ysgol ym mhob math o dywydd,” meddai. 

Image
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates yng ngorsaf fysiau'r Rhyl 

'Lleihau costau'n hanfodol bwysig'

Hyd yma, mae’r cynllun tocynnau bws £1 wedi bod ar gael i blant 16-21 oed ym mhob cwr o Gymru.

Fis Tachwedd fe fydd y llywodraeth yn ymestyn eu cynllun i gynnwys plant rhwng 5 a 15 oed. Ond mi fydd angen i’r grŵp oedran hwn gyflwyno ‘fy ngherdyn teithio’ i'r gyrrwr fel prawf oedran.

Ers 1 Medi mae plant a phobl ifanc rhwng 5-21 oed yn Rhondda Cynon Taf wedi gallu manteisio ar docynnau bws £1 ar ôl i’r cyngor penderfynu defnyddio cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU am gyfnod cyn i’r llywodraeth lansio eu cynllun.

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf nad oeddent yn bwriadu ymateb i sylwadau Anna Pavett. 

Wrth siarad yng ngorsaf fysiau'r Rhyl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Rwy'n falch iawn bod y cynllun eisoes yn profi i fod yn boblogaidd gyda phobl ifanc ledled Cymru.

“Mae lleihau cost teithio i bobl ifanc yn hanfodol bwysig yn ein huchelgais i ddarparu gwell trafnidiaeth i bawb ac annog mwy o bobl i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.