Prifysgol Caerdydd yn wynebu beirniadaeth am agor campws yn Kazakhstan
Prifysgol Caerdydd yn wynebu beirniadaeth am agor campws yn Kazakhstan
Mae Prifysgol Caerdydd yn wynebu beirniadaeth yn dilyn agor campws newydd i'r brifysgol yn Kazakhstan, mewn cyfnod o doriadau a cholli swyddi ymysg ei staff yng Nghymru.
O ddiwedd mis Medi ymlaen, mae Prifysgol Caerdydd Kazakhstan yn derbyn myfyrwyr i raglenni israddedig pedair blynedd gan gynnwys Cyfrifiadureg, Rheoli Busnes, Peirianneg Sifil a Daeareg Archwilio.
Cafodd y campws yn Astana, prifddinas y wlad, ei agor yn swyddogol ar 3 Medi.
Mae'r wlad wedi dod o dan y lach am ei record hawliau dynol ond mae Prifysgol Caerdydd yn dweud bod camau diwydrwydd dyladwy ('due dilligence') wedi eu dilyn cyn agor y campws newydd.
Yn gynharach eleni roedd pryder y byddai hyd at 400 o swyddi'n cael eu colli yng Nghaerdydd. Erbyn mis Mai roedd nifer y toriadau wedi gostwng i 138 meddai'r brifysgol.
Ar ddechrau’r flwyddyn, fe wnaeth y brifysgol lansio ymgynghoriad ffurfiol ar newidiadau arfaethedig "gyda’r bwriad o ddiogelu ei dyfodol hirdymor."
'Poeni am enw da'
Wrth nodi agoriad swyddogol campws newydd y brifysgol yn Kazakhstan, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner mewn datganiad: “Roeddwn wrth fy modd yn agor ein campws yn Astana yn swyddogol – campws rhanbarthol rhyngwladol cyntaf Prifysgol Caerdydd.
“Edrychwn ymlaen at groesawu’r garfan gyntaf o fyfyrwyr sy’n academaidd ragorol yn nes ymlaen y mis hwn.
"Ni yw prifysgol gyntaf Grŵp Russell y DU i agor campws yn Kazakhstan, sef cam pwysig yn ein huchelgais fyd-eang at y dyfodol.
“Rydyn ni’n rhannu uchelgais Kazakhstan i fod yn fan cyfarfod addysgol rhyngwladol, gan ehangu addysg uwch yn brif ysgogydd datblygiad a ffyniant y wlad yn y dyfodol.”
Mae undeb sydd yn cynrychioli darlithwyr y brifysgol yng Nghaerdydd wedi lleisio pryderon am y campws newydd.
Wrth siarad gyda'r BBC, dywedodd llefarydd undeb UCU, Andy Williams: "Mae hon yn wlad sydd â record wael o ran hawliau dynol a record wael o ran amddiffyn buddiannau a bywydau pobl hoyw yn benodol - rydym yn poeni am hynny," meddai.
"Rydym yn poeni am y risgiau i enw da Prifysgol Caerdydd pe bai hyn yn mynd o chwith."