Mae grŵp o ffrindiau wedi llwyddo i gwblhau her rali anferthol gan deithio 7,450 o filltiroedd ar draws 15 o wledydd a hynny mewn hen gar Renault Clio.
Y rheolau ar gyfer Rali Mongol oedd teithio mewn car oedd heb beiriant mwy na 1.3 litr a chodi £500 ar gyfer elusen.
Fe gychwynnodd George Loftus, 27, sydd yn gweithio mewn becws yn Wrecsam, a'i ffrindiau Tom Suter, Jon Fowell a Hua Ying Baker y ras yn Prague gan deithio yr holl ffordd i Oskemen yn Kazakhstan.
Ar hyd y ffordd fe gafon nhw sawl her - gan gynnwys y car yn torri lawr a gwrthod mynediad i un wlad.
Dywedodd Mr Loftus wrth wefan The Leader: "Mi wnaethon nhw ddweud wrtha i fod y car yn anghyfreithlon ddim o achos fisas neu dogfennau ond llyw y car.
"Fe gafon ni ein gwahardd o Tajikistan am un o'r rhesymau mwyaf rhyfedd!"
Doedd un o'r aelodau, Jon Fowell methu ymuno gyda nhw chwaith tan iddyn nhw gyrraedd Azerbaijan.
Ond er hynny fe lwyddon nhw i barhau.
Fe benderfynodd y ffrindiau i rasio ei gilydd ar gyfer rhan olaf y daith gyda Mr Loftus a Ms Baker yn dreifio tra bod Mr Suter a Mr Fowell yn teithio ar drên ac awyren.
Yn rhyfeddol y car wnaeth gyrraedd gyntaf.
Am fod yna ormod o gostau trwsio'r Clio fe benderfynon nhw adael y car yn Kazakhstan.
"Mi o'n i yn drist i adael y car ond mae wedi mynd i le da. Ar y llinell derfyn roedd yna ddyn busnes oedd yn cymryd ceir gan bobl.
"Mi oedd yn dweud ei fod yn adeiladu amgueddfa o'r holl geir rali wnaeth gymryd rhan.
"Gobeithio mewn ychydig flynyddoedd pan fydd yr amgueddfa wedi gorffen fe allwn ni weld o eto," meddai Mr Loftus wrth The Leader.
Mae'r tîm, oedd yn galw eu hunain yn No Half Sends, wedi codi dros £1,700 ar gyfer nifer o elusennau gan gynnwys Cool Earth, Lupus UK a Chymdeithas Stroc.
Llun: Ceidiog