Don Leisure yn cipio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025
Y DJ a'r cynhyrchydd Don Leisure sydd wedi dod i'r brig yn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am 2025 gyda'i albwm 'Tyrchu Sain'.
Mae 'Tyrchu Sain' yn albwm sydd wedi ei dylanwadu gan ôl-gatalog cwmni recordiau Sain dros y blynyddoedd.
Mae Don ei hun wedi cydweithio gyda llawer o artistiaid eraill yn ystod ei yrfa hyd yma, ac mae'n un rhan o'r ddeuawd gerddorol Darkhouse Family.
Mae'n adnabyddus am fod yn gynhyrchydd arbrofol a blaengar. Mae'n aml yn cyfuno genres, gan gynnwys hip-hop, jazz, a cherddoriaeth electronig.
Dyma'r bymthegfed tro i'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig gael ei chynnal ac roedd yr artist buddugol yn derbyn £10,000.
Cafodd y noson wobrwyo ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd nos Lun, gyda'r DJ a'r cyflwynydd Sian Eleri'n arwain y noson.
Yr artisitiaid eraill ar y rhest fer am y wobr oedd Adwaith, Buddug, Breichiau Hir, Cerys Hafana, Panic Shack, Gwenno, Kelly Lee Owens, KEYS, Melin Melyn, Sage Todz, Siula, Tai Haf Heb Drigolyn, The Gentle Good, a The Tubs.
Beirniaid y wobr eleni oedd Caroline Cullen, Davie Morgan, Jude Rogers, Molly Palmer, Natalia Quiros Edmunds, Roisin O’Connor, Sofia Ilyas, Tim Jonze a a Zakia Sewell.