Gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn dod i ben yn Aberaeron
Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi fod y gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn dod i ben ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron.
Ers dydd Mawrth, mae modd i bobl ddefnyddio Pen Cei a'r Rhodfa Morglawdd newydd yn Aberaeron, ac mae'r awdurdod yn rhagweld y bydd y gwaith o roi arwyneb newydd o amgylch Pwll Cam, ger yr harbwr, wedi ei gwblhau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 11 Hydref.
Ail agorodd Traeth y De, fis Awst.
Yn ôl Cyngor Ceredigion, mae "carreg filltir arall" wedi’i chyrraedd yn y gwaith adeiladu ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron, a fydd yn darparu amddiffyniad rhag llifogydd ac erydiad arfordirol yn y dyfodol.
Cafodd y prosiect gwerth £31.5 miliwn ei ariannu yn rhannol gan Lywodraeth Cymru (£26.85m) ar y cyd â Chyngor Sir Ceredigion (£4.74m) a gwnaed y gwaith gan gwmni adeiladu a pheirianneg sifil BAM.
Ganol Medi, datgelodd gwaith ymchwil gan wefan Newyddion S4C fod bron i £2.5 miliwn o orwariant ar y cynllun.
Cafodd cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Ceredigion yn 2023.
Wedi bron i ddwy flynedd o adeiladu, mae'r gwaith wedi tynnu tua'r terfyn, chwe mis yn hwyrach na'r disgwyl
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun.
Gofynnodd Newyddion S4C i'r cyngor ar y pryd, beth yn union oedd maint y gorwario ar y cynllun erbyn hyn, ond dywedodd yr awdurdod nad oedd modd cadarnhau'r swm hyd nes bod y gwaith wedi'i gwblhau.
"Ni allwn ddarparu cost derfynol y cynllun nes bod y gwaith a'r trefniadau cytundebol wedi'u cwblhau'n llawn," meddai llefarydd.
Gorwario
Mae adroddiad diweddar gan Gyngor Sir Ceredigion ar wariant yr awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 yn dangos bod gorwario o £2.48 miliwn wedi digwydd ar y cynllun arfordirol yn Aberaeron.
Ac mae'n bosib y gallai maint y gorwario fod wedi cynyddu, gan fod yr adroddiad blynyddol ond yn ymestyn hyd at ddiwedd mis Mawrth eleni, ac nid yw'n cynnwys y chwe mis diwethaf o waith ar y cynllun.
Yn ôl yr 'Adroddiad Alldro Cyfalaf 2024/25' a gafodd ei gyhoeddi ar 1 Gorffennaf, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion fod "sensitifrwydd masnachol" wedi cyfrannu at y gorwario ar y cynllun arfordirol.
'Alldro Cyfalaf' yw'r union swm sy'n cael ei wario ar gynllun, o'i gymharu â'r swm oedd wedi ei glustnodi'n wreiddiol.
Lleihau risg llifogydd
Wrth gyhoeddi diweddariad am y gwaith adeiladu brynhawn Mawrth, dywedodd Cyngor Ceredigion y bydd y cynllun Amddiffyn Arfordirol yn lleihau'r risg o lifogydd i 168 o eiddo anfasnachol a phreswyl yn Aberaeron ac yn darparu amddiffyniad rhag y cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol.
"Rydym yn falch o gyhoeddi’r newyddion hwn yn ystod wythnos Byddwch yn Barod am Lifogydd, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth pobl am y pwysigrwydd o fod yn barod am lifogydd pe bai yna risg," meddai datganiad yr awdurdod.
Mae'r gwaith wedi cynnwys:
- adeiladu waliau cynnal craig a grwynau pren ar Draeth y De i leihau effeithiau erydiad arfordirol
- ailadeiladu strwythur dadfeiliedig y Pier Deheuol i ymestyn ei oes
- adeiladu wal llifogydd o faen a gwydr sy'n ddymunol ei olwg ac yn cynnwys sawl pwynt mynediad i gerddwyr ar hyd Pen Cei
- gosod giât llifogydd ac adeiladu man cyhoeddus uchel o fewn Pwll Cam
- adeiladu Morglawdd newydd i leihau uchder y tonnau yn yr harbwr gyda llwybr cerdded integredig sy'n cynnig profiad newydd yn lleol ac i ymwelwyr
- darparu cynllun cynaliadwy sy'n diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol
Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: "Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol o ran diogelu arfordir trawiadol Aberaeron a diogelu dyfodol y dref a'i thrigolion rhag y bygythiad cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd."
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Mewn oes o batrymau tywydd cynyddol ddifrifol a lefelau'r môr yn codi, mae prosiectau fel Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron yn dangos ein penderfyniad i addasu a helpu ein cymunedau i fod yn fwy cadarn a chydnerth ar gyfer y dyfodol."
Ychwanegodd Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn diolch i drigolion, busnesau a'r gymuned am eu cefnogaeth a'u hamynedd drwy gydol y broses adeiladu, a'u bod yn annog pawb i ymweld ag Aberaeron i weld y datblygiad.