Eluned Morgan ‘ddim yn diystyru’ trydedd bont dros y Fenai
Mae’r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi dweud nad yw Llywodraeth Cymru “erioed wedi diystyru” adeiladu trydedd bont rhwng Ynys Môn a thir mawr Cymru.
Ond byddai angen dod o hyd i “swm enfawr o arian” er mwyn ei hadeiladu, meddai.
Daw ei sylwadau wedi i Bont y Borth dros y Fenai gael ei chau ddydd Sadwrn ar gyfer gwaith atgyweirio brys.
Fe gafodd y bont hefyd ei chau am rai misoedd yn 2022 ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol, yn sgil argymhellion diogelwch gan beirianwyr.
“Gaf i egluro nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi diystyru trydedd groesfan ar Ynys Môn,” meddai Eluned Morgan wrth ateb cwestiwn ar y pwnc yn y Senedd.
“Ond, yn amlwg, byddai’n rhaid i ni ddod o hyd i swm enfawr o arian ar gyfer hynny. Ac, yn amlwg, rydych chi’n gwybod bod hynny’n rhywbeth lle mae angen cwestiynu blaenoriaethau.”
Roedd hi’n ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, sy’n cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd.
“Ond mae hyn hefyd yn tynnu sylw unwaith eto at ddiffyg gweledigaeth Llywodraeth Cymru wrth ddileu cynlluniau ar gyfer trydedd bont yn 2023,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“A fydd y datblygiad diweddaraf hwn yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y mater hwn o ddifrif a chyflwyno mesurau i wella trafnidiaeth ar draws Afon Menai?
“Neu ai gwaddol y Llywodraeth Lafur fydd esgeuluso’r seilwaith hanfodol sydd i fod i gadw Cymru i symud?”
Dywedodd Eluned Morgan ei bod hi’n “deall rhwystredigaethau pobl Ynys Môn dros y penwythnos”.
“Rwy’n gwybod ei fod yn anghyfleustra enfawr i bobl, ond yn amlwg ni fyddwn yn ymddiheuro am roi diogelwch yn gyntaf,” meddai. “Dyna fydd ein blaenoriaeth bob amser.”
Ychwanegodd ei bod “yn y pen draw yn bont 200 oed”.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn 2023 na fydd trydedd bont ar gyfer cerbydau yn cael ei hadeiladu dros y Fenai.
Daeth y penderfyniad yn dilyn adolygiad o dros 50 o brosiectau ffyrdd oedd dan ystyriaeth ar y pryd.
Er nad oes bwriad i adeiladu pont newydd i gerbydau dros y Fenai, dywedodd y llywodraeth ar y pryd eu bod yn edrych ar ystod o ffyrdd i “ddatblygu opsiynau i sicrhau gwydnwch croesi’r Fenai, ac a fyddai'n cyd-fynd â’r profion adeiladu ffyrdd yn y dyfodol”.