Cian Ciarán o'r Super Furry Animals i berfformio darn piano unigryw yn Japan

cian ciaran.jpg

Mae'r cerddor a'r cynhyrchydd Cian Ciarán ar fin cyflwyno cyfansoddiad unigryw sy'n cynnwys dau biano sy'n chwarae ar eu pennau eu hunain. 

Fe fydd yr aelod o'r Super Furry Animals yn teithio i Japan fel un o 21 o artistiaid a chwmnïau fel rhan o Flwyddyn Cymru a Japan 2025. 

Daw hyn wedi i'r Super Furry Animals gyhoeddi y byddan nhw yn ail-ffurfio yn 2026 ar gyfer eu cyngherddau cyntaf ers bron i ddegawd.

Fe fydd Cian yn perfformio ei ail-ddehongliad o stori werin glasurol Rhys a Meinir yn Tokyo ar 17 Hydref. 

Mae'r darn wedi ei berfformio yn wreiddiol gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda Rhys Ifans fel adroddwr. Ond mae'r fersiwn newydd ar gyfer dau biano sy'n chwarae ar eu pennau eu hunain. 

Dywedodd Cian: "Mae Japan yn wlad ysbrydoledig sydd wedi ac yn parhau i ddylanwadu ar fy ngwaith. Dwi’n gyffrous iawn i gynnal y perfformiad cyntaf hwn yn teamLab, sef man sy’n herio ein rhagdybiaethau o gelf a thechnoleg.

"Mae’r ddau biano sy’n chwarae ar eu pennau eu hunain yn dod ag ysbrydion Rhys a Meinir yn ôl yn fyw ac yn gosod ein treftadaeth Gymreig yng nghanol ffenomenon diweddaraf Japan.” 

Mae Blwyddyn Cymru a Japan yn ddathliad blwyddyn o hyd o gysylltiadau'r ddwy genedl, gan gynnwys cysylltiadau diwylliannol, creadigol, busnes a chwaraeon.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: "Mae cronfa Diwylliant Cymru-Japan yn cynnig cyfle i arddangos y gorau o gerddoriaeth Cymru ar lwyfan byd-eang. Rwy’n falch o gefnogi artistiaid fel Cian Ciarán yn Japan a thrwy ddigwyddiadau fel Keltronika rydym yn cefnogi hyd yn oed mwy o artistiaid o Gymru i ddilyn ôl troed SFA ar eu taith tuag at lwyddiant byd-eang."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.