Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Mercher, 18 Awst - o Gymru a thu hwnt.
20,000 o ffoaduriaid i ailsefydlu yn y Du- Sky News
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson wedi cyhoeddi y bydd y DU yn derbyn hyd at 20,000 o bobl bregus o Afghanistan dros y blynyddoedd i ddod fel rhan o gynllun ailsefydlu, a hynny’n dilyn meddiant y Taliban o’r wlad.
Myfyrwraig meddygol yn ‘gaeth’ dan reolaeth y Taliban- ITV News
Mae myfyrwraig meddygol yn Kabul wedi dweud ei bod hi’n ofni na fydd hi byth yn gwireddu ei breuddwyd o fod yn feddyg nawr fod y Taliban wedi cymryd rheolaeth o brifddinas Afghanistan, Kabul.
Ymgynghori ar ddyfodol trosffordd Caernarfon
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu ymgynghori gyda thrigolion Caernarfon ar ddyfodol trosffordd yng nghanol y dref.
Gwledydd y G7 i gasglu biliwn o frechlynnau Covid-19 dros ben- The Independent
Mae dadansoddiad yn awgrymu y bydd cenhedloedd y G7 wedi casglu 977,813,000 o ddosau brechlyn Covid-19 wrth gefn erbyn diwedd 2021, yn ôl cwmni dadansoddi data blaenllaw.
Galw ar bysgotwyr i addysgu gyrwyr beiciau dŵr am fywyd gwyllt
Mae Heddlu Dyfed Powys ac elusen RSPB yn galw ar bobl i fod yn fwy ystyrlon o fywyd gwyllt wrth fod ar y môr. Yn ôl gwaith ymchwil gan yr RSPB, fe all symudiadau a synau cyflym achosi morloi a dolffiniaid i wahanu o’u babanod a pheri i adar i ffoi o’i nythod.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.