Newyddion S4C

Galw ar bysgotwyr i addysgu gyrwyr beiciau dŵr am fywyd gwyllt

18/08/2021
S4C

Fe ddylai pysgotwyr lleol mewn ardaloedd fel Sir Benfro addysgu gyrwyr beiciau dŵr am beryglon aflonyddu bywyd gwyllt.

Mae Heddlu Dyfed Powys ac elusen RSPB yn galw ar bobl i fod yn fwy ystyrlon o fywyd gwyllt wrth fod ar y môr.

Yn ôl gwaith ymchwil gan yr RSPB, fe all symudiadau a synau cyflym achosi morloi a dolffiniaid i wahanu o’u babanod a pheri i adar i ffoi o’i nythod.

Mae’r heddlu hefyd wedi pwysleisio fod yr anifeiliaid yma yn cael eu gwarchod gan y gyfraith.

Daw’r gorchymyn ynghyd â chynnydd mewn adroddiadau fod beiciau dŵr yn achosi aflonyddwch ym Môn a Sir Benfro.

Mewn datganiad, dywedodd Rheolwr Safle Ynys Dewi RSPB, Greg Morgan, fod angen cymorth y cyhoedd, gan gynnwys pobl sydd yn arbenigo mewn materion sydd yn ymwneud â’r môr i helpu’r sefyllfa.

“Hoffwn weld pawb yn mwynhau’r bywyd gwyllt ein dyfroedd mewn ffordd ddiogel a pharchus,” eglurodd.

“Yr unig ffordd allwn sicrhau hyn yw drwy gael pysgotwyr lleol o ardaloedd twristiaeth yn Sir Benfro i’n helpu.

“Mae pysgotwyr yn adnabod yr ardal yn dda ac wedi’u hyfforddi ac felly’n ymwybodol o faterion aflonyddu morol.

“Er hyn, os ydych chi allan ar y môr, a fyddwch cystal â dilyn canllawiau Cod Morol Sir Benfro er mwyn sicrhau fod bywyd gwyllt y môr yn aros yn ddiogel.”

Ychwanegodd Sarjant Matthew Langley: “Mae arfordir Sir Benfro yn ardal bwysig iawn i adar y môr sydd yn nythu ac anifeiliaid eraill y môr.

“Mae beiciau dŵr, caiac a chychod cyflym yn gallu effeithio bywyd gwyllt y môr.

“Rydym yn cydweithio gyda’n partneriaid i geisio annog pobl i fwynhau’r môr mewn ffordd ddiogel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.